Cyfeillion Hedd Wyn yn ei gofio ar ganmlwyddiant ei farwolaeth
Mae Cofio Hedd Wyn: Atgofion Cyfeillion a Detholiad o’i Gerddi gan Robin Gwyndaf yn cynnwys tystiolaeth o lygad y ffynnon nifer o gyfeillion hoff Ellis Humphrey Evans, mab cyntaf anedig Yr Ysgwrn, Trawsfynydd.
Yn fwyaf arbennig, rhoddir sylw i atgofion tri pherson y cafodd yr awdur y fraint o’u recordio ar dâp: Simon Jones, Blaen Plwyf Uchaf, Aberangell, gynt o Gwm Cynllwyd, plwyf Llanuwchllyn a ddywedodd,
‘Odd o’n cyrredd o Drawsfynydd a finne o Lanuwchllyn ’run bore, diwedd nineteen sixteen. A dwi’n cofio, sgidie cochion genno fo, a cetyn yn ’i geg… [Yna, yn yr ymarfer milwrol] Nick Mullens, yr hen Sergeant Major [yn gweiddi arno]: “Come along, you’re not on a bloody Welsh farm now – wake up”. [Ac ym] Mrwydyr Passchendaele… wel, ôn i hefo fo… ac mi gweles o’n syrthio.’
Ceir hefyd atgofion gan Jacob Jones, brodor o Uwchaled, a gafodd gwmni Hedd Wyn pan ddaeth yn Graswr i Odyn Melin Fronolau, Trawsfynydd; a’r Parchg William Morris, brodor o’r Manod, Blaenau Ffestiniog.
Mae’r gyfrol arloesol hardd, clawr caled, hon yn cynnwys dros 400 tudalen a 160 o luniau du a gwyn a lliw.
Ceir yn y gyfrol hefyd ddetholiad cynhwysfawr o gerddi difyr a dwys Hedd Wyn, amryw ohonynt heb eu cynnwys yn yr unig gyfrol o weithiau’r bardd, sef Cerddi’r Bugail. Yn eu plith cerddi i nifer fawr o fechgyn Trawsfynydd a anfonwyd i’r rhyfel; cerddi byd natur; cerddi i’w gariadon; cerddi coffa; a cherddi cyfarch.
Yn gyfrol i gofio’r bardd ifanc o Drawsfynydd a ddaeth yn eilun y Genedl, meddai Robin Gwyndaf, ‘Mae’n gyfrol hefyd i’n sobreiddio - i ddwyn i gof nid yn unig y golled enbyd ym marwolaeth Hedd Wyn, ond hefyd yr holl ddioddefaint anfesuradwy yn sgîl y Rhyfel Mawr.’
Mae Dr Robin Gwyndaf yn Gymrawd Ymchwil er Anrhydedd yn Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru. Y mae hefyd yn Gymrawd Llên Gwerin Cydwladol ac yn gyn-aelod o Fwrdd Cydwladol Canolfan Diwylliant Gwerin Ewrop ym Mudapest (o dan nawdd UNESCO). Y gyfrol hon yw ei ail gyfrol ar bymtheg mewn cyfres o lyfrau ar ddiwylliant gwerin Cymru. Teitl y bymthegfed gyfrol yw Taliesin o Eifion a’i Oes. Bardd y Gadair Ddu Gyntaf: Eisteddfod Wrecsam, 1876 (Y Lolfa, 2012).
Caiff y gyfrol ei lansio ar yr 11eg o Awst am 1 o’r gloch ym Mhabell Cymdeithasau 1 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn gyda Robin Gwyndaf yn cyflwyno’r gyfrol. Trefnir gan Gymdeithas y Cymod.