Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cwpan y Byd - Llawlyfr "di-duedd" Cymraeg

Gyda phencampwriaeth Cwpan Pêl-droed y Byd yn Rwsia ar droed bydd y siopau yn llawn deunydd hyrwyddo a marchnata di-ri. Mae’r Lolfa wedi mynd ati i gyhoeddi cyfeirlyfr “di-duedd” Cymraeg, a gobaith yr awdur Dylan Ebenezer yw y bydd y gyfrol yn gymorth i ddilynwyr pêl-droed ddewis tîm ar gyfer y gystadleuaeth, gan na fydd Cymru yn cymryd rhan.

Dywedodd Lefi Gruffudd ar ran Y Lolfa, “Bydd bron y cyfan o’r cyhoeddiadau a’r atodiadau papur newydd yn Saesneg ac o safbwynt Lloegr heb sôn am y darllediadau. Hwn fydd yr unig gyfrol Gymraeg ac yn amlwg mae’n gyhoeddiad di-duedd gan na fydd Cymru yno.”

Cyfrol gynhwysfawr sydd yn llawn ffeithiau difyr a ffotograffau lliw yw Cwpan y Byd Rwsia 2018. Mae’n cynnwys hanes y timau yn ogystal â gwybodaeth am y chwaraewyr gorau i gyd. Bydd y gyfrol yn addas ar gyfer pob oed ond yn bennaf ar gyfer pobl ifanc rhwng 8 ac 14 oed. Bydd y llyfr hefyd yn cynnwys siart am ddim. Mae’r cyn seren rhyngwladol Owain Tudur Jones, sy’n cyfaddef y bydd yn gwylio pob un gêm yn y gystadleuaeth, wedi ysgrifennu cyflwyniad a’r cefnogwr pêl-droed brwd Elgan Griffiths o Aberystwyth, sydd wedi gwneud y gwaith dylunio.

Codwyd cenedl gyfan gan lwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Ewro 2016, gyda'r bencampwriaeth yn uno a chynhyrfu'r holl wlad. Yn anffodus y tro yma ni fydd Cymru yn cystadlu, ac felly ni fydd y wefr o'u gweld yn cyrraedd y brig pêl-droed cenedlaethol yn cael ei wireddu gyda'r bencampwriaeth yma yn Rwsia. Er hyn, gyda thimau pêl-droed gorau'r byd yn cystadlu, mae'n addo i fod yn haf difyr, llawn drama.

Mae Dylan Ebenezer yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C ac i wrandawyr Radio Cymru. Mae'n awdur ac yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon fel Sgorio a Camp Lawn.