Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Crynhoi doethinebau’r canrifoedd mewn casgliad newydd o ddiarhebion

Mae traddodiad llenyddol y Gymraeg yn mynd yn ôl dros fil a hanner o flynyddoedd ac un o’r pethau sydd wedi bod yn rhan amlwg o’r gwaddol hon o’r dechrau un yw diarhebion. Mae’r Lolfa newydd gyhoeddi Y Diarhebion: Casgliad o Ddiarhebion Cyfoes, sef cyfrol o ddiarhebion sy’n addas i’w defnyddio heddiw. 

Dywedodd awdur y gyfrol, D. Geraint Lewis:
“I’r casglwyr gwreiddiol, y diarhebion oedd olion o ddoethineb yr hen dderwyddon. I’r ysgolion barddol, enghreifftiau oeddynt i’w dysgu fel ffordd o fynd ati i greu llinellau teilwng o farddas, ac i ysgolheigion y Dadeni Dysg dyma drysorau o draddodiad llenyddol hyfyw hynaf Ewrop. Amcan y gyfrol fach hon yw dethol o blith y miloedd o enghreifftiau, rai or dywediadau pert sy’n siarad â ni heddiw yn ein Cymru ddwyieithog.”

Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer pawb sy’n siarad Cymraeg – yn ddysgwyr ac yn siaradwyr iaith gyntaf. Rhestrir y diarhebion yn ôl gair arwyddocaol yr ymadrodd, er hwylustod. Er mwyn ceisio cyflwyno ystyr y ddihareb heddiw, rhestrir gasgliad o ymadroddion a diarhebion Saesneg, sydd ddim bob amser yn cyfieithu’r geiriau Cymraeg ond sy’n cyfateb i ergyd y ddihareb Gymraeg.