Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Comic Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc y dyfodol

Mae comic Cymraeg Mellten yn chwilio am gartwnwyr ifanc y dyfodol drwy roi’r cyfle i blant ifanc greu cymeriad neu stribed cartŵn eu hunain mewn cystadleuaeth fawr a lansir yr wythnos hon.

Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr 2018 mae Cyngor Llyfrau Cymru a chomic Mellten am ymuno er mwyn rhedeg cystadleuaeth arbennig ar y cyd.

Bydd y plentyn buddugol yn ennill darn o waith celf gwreiddiol gan grëwr Mellten, Huw Aaron, tocyn teulu ar gyfer Gŵyl y Gelli 2018, a bydd y stribed yn cael ei gynnwys yn y rhifyn mis Mai o Mellten.

Yn ogystal â hyn, bydd dosbarth ysgol yr enillydd yn derbyn gwobr arbennig hefyd, sef ymweliad gan Huw Aaron i gynnal gweithdy cartwnio.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i bawb, ac mae’r dewis i gystadleuwyr gwblhau’r stribed cartŵn Capten Clonc sydd yn cael ei gynnwys yn seithfed rhifyn comic Mellten ac ar wefan y comic, neu i greu cymeriad neu stribed cartŵn newydd.

Bydd y gystadleuaeth yn cau 31 o Fawrth gyda enwau’r enillwyr yn cael ei cyhoeddi mis Ebrill. Gofynnir i’r cystadleuwyr anfon eu ceisiadau at [email protected], neu trwy’r post at “Cystadleuaeth Mellten”, Cyngor Llyfrau Cymru, Castell Brychan, Aberystwyth, Ceredigion SY23 2JB.

‘Rydym wrth ein bodd yn cael gweithio gyda Mellten a’r Lolfa ar y gystadleuaeth yma a rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc Cymru tanio eu dychymyg drwy greu cymeriad neu stribed cartŵn newydd’ meddai Angharad Wyn Sinclair, Rheolwr Cynlluniau Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru, ‘Pa ffordd well i ddathlu Diwrnod y Llyfr eleni na darllen rhifyn diweddaraf Mellten a rhoi cynnig ar y gystadleuaeth yma? Edrychwn ymlaen yn fawr i weld yr amryw greadigaethau!’

‘Mae’r seithfed rhifyn yn enghraifft gwych o’r anogaeth i blant greu a defnyddio eu dychymyg,’ meddai Huw Aaron, ‘Rydym ni yng nghomic Mellten yn awyddus iawn i helpu a datblygu talent creadigol plant. Rydw i yn enwedig eisiau gweld cenhedlaeth nesaf o gartwnwyr yn creu comics eu hunain yn y dyfodol.’

‘Mae’r ddawn greadigol yno yn sicr ond mae plant angen cyfloedd i ddangos ei doniau’ ychwanegodd.

Yn nhudalennau’r seithfed rhifyn mae Gwil Garw yn darganfod ei hunan mewn tipyn o helbul, mae Bloben yn darganfod ei hoffter am raglen Cyw,ac mae Iola yn paratoi i rasio yng nghystadleuaeth Rali’r Gofod.

Hefyd, bydd mwy o straeon o’r cysgodion wrth i’r storiwr adrodd hanes dirgel Pontarfynach, bydd dirgelwch Allwedd Amser yn parhau tra bod Boc druan ar goll ar y fferm a’r anfeiliaid ar ffo.

Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma’r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i’w gyhoeddi ers degawdau. Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron, mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.

Bydd y rhifyn nesaf o Mellten yn ymddangos ym mis Mai. Mae modd prynu copïau unigol o Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy’r wefan, ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg y Lolfa. Mae cyfle hefyd i danysgrifiwyr aildanysgrifio eto.