Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Cofiwch y gwenyn' - neges llyfr newydd i blant

Mae llyfr newydd yn gweld awdures newydd Carys Glyn ac artist o fri Ruth Jên yn cydweithio i gyfuno rhai o anifeiliaid y Mabinogi a’r broblem gyfoes o wenyn yn diflannu i greu antur gyda neges newydd sbon i blant - Criw’r Coed a’r Gwenyn Coll.

Datblygodd y bartneriaeth yn ystod gwrs wythnos yn Nhŷ Newydd ar ddechrau 2019, gyda Manon Steffan Ros a Jac Jones yn arwain y cwrs.

Meddai Carys Glyn:

“Cyn dechrau’n iawn ar y llyfr, roedd y ddwy ohonom yn hollol gytûn ein bod ni eisiau’r llyfr i edrych yn wahanol i lyfrau plant arferol. Ein blaenoriaeth oedd creu llyfr llawn hiwmor a fydd yn hwyl i blant i edrych arno, i wrando arno ac i feddwl amdano.”

Mae’r stori’n ail-ddychmygu anifeiliaid hynaf y byd, o chwedl Culwch ac Olwen, fel archarwyr sydd yn helpu anifeiliaid eraill ddatrys problemau’r byd naturiol o’u cwmpas. Trwy ddefnyddio eu doniau anhygoel mae’r pum cymeriad unigryw – G.Hw, Carwww, Eryr, Chwim a Mal yn gweithio gyda'i gilydd i achub y dydd ac i achub y blaned!

Daeth y 5 cymeriad o ddychymyg yr artist o Dalybont Ruth Jên, meddai:

“Dwi wedi defnyddio’r Anifeiliaid Hynaf o’r Mabinogi fel ysbrydoliaeth i fy ngwaith celf ers rhai blynyddoedd. Wedi i Carys gweld brasluniau yn seiliedig ar y cymeriadau fel criw o archarwyr aeth hi ati i ddatblygu stori ar eu cyfer.”

Meddai Carys: “Ar ôl mynd adref, syllais ar y llun am amser hir cyn i bersonoliaethau unigol y ‘criw’ dod yn amlwg i fi. R’on i’n gweld y gwdi-hw yn syth fel yr arweinydd naturiol oedd yn rapio ei gyngor doeth, a Chwim yr eog fel ei ddirprwy a hefyd yn ffrind da i Carwww, aelod mwyaf nerfus y Criw. Daeth Eryr wedyn yn gymeriad gyda’r cyhyrau mawrion oedd ofn dim byd. Malwychen oedd y cymeriad anoddaf i fedri ddatblygu… ond roedd Ruth wedi cyfleu gymaint amdano yn y sgets wreiddiol. Fe ddaeth yn glir mai Mwylachen oedd yr un difrifol, dirgel – ar gyrion y Criw. Roeddwn i’n caru’r syniad bod gan bob un ohonyn nhw ddoniau gwahanol a gyda’i gilydd bydden nhw yn medru datrys unrhyw broblem. Roeddwn i’n gweld nhw fel rhyw fath o ‘A Team’ yn dod o’r dyfnderoedd y goedwig i helpu anifeiliaid heddiw oedd mewn trafferth.

Mae’r ddwy yn gobeithio y bydd y stori yn dysgu gwers foesol bwysig i blant heddiw, gan fachu diddordeb a herio dealltwriaeth darllenwyr ifanc o’r byd naturiol o’u cwmpas.

Meddai Ruth:

“Neges y stori yw cofiwch y gwenyn! Mae’n bwnc sydd yn agos at fy nghalon.”

Meddai Carys:

“Rwy’n gobeithio bydd plant yn sylweddoli eu bod nhw yn gallu gwneud gwahaniaeth MAWR i ddyfodol y blaned trwy wneud y pethau bach. Hefyd, rwy eisiau i bobl rhoi ail gyfle i wenyn – mae llawer o blant bach yn teimlo ofn wrth weld gwenynen, fel un o’r cymeriadau yn y stori. Rwy’n gobeithio ar ôl darllen y llyfr y bydd plant yn sylwi bod gwenyn yn arwyr yr ardd a hebddyn nhw byddai y rhan fwyaf o’n llysiau a’n ffrwythau yn diflannu.”

“Fel athrawes rwy’n gobeithio bydd y stori wreiddiol yma yn ddefnyddiol i helpu athrawon cyflawni’r nod o ddatblygu disgyblion heddiw yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus. Un o fwriadau’r testun ydi tanio’r drafodaeth am sut gall blant cyfannu at edrych ar ôl blaned a'u hannog i edrych yn agosach at yr un sydd yn digwydd yn y parc neu eu gerddi.”