Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cofio '69: Gwrthdaro rhwng plismyn y llywodraeth a Chymry Cymraeg

Ar y 1af o Orffennaf eleni, fe fydd hi’n 50 mlynedd ers i Charles Philip Arthur George gael ei urddo yn Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Mae Dim Croeso ’69 – Gwrthsefyll yr Arwisgo (Y Lolfa) gan Arwel Vittle yn egluro sut beth oedd bod ym merw pethau ar y pryd, wrth iddo gyfuno’r hanes gyda sylwadau llygaid-dystion a straeon na welwyd mewn print o’r blaen.


Efallai y bydd rhai yn cofio'r achlysur a'r 'Tri mis o ddathlu mawr', er o edrych yn ôl go brin mai dathlu yw'r gair cywir. Yn y dyddiau hynny, yng ngeiriau Saunders Lewis, 'fe fu hi'n go agos at beth tebyg i ryfel agored rhwng plismyn y llywodraeth a phobl ifainc Cymru Cymraeg. Ni bydd hi fyth eto yn union fel cynt.' Rhwygwyd cymunedau a phrif sefydliadau'r genedl gan y dadlau a'r cecru a ddaeth yn sgil yr achlysur - rhoddwyd Plaid Cymru mewn cyfyng gyngor o ran gwrthwynebu'r digwyddiad neu beidio, achoswyd rhyfel cartref yn rhengoedd yr Urdd, cafwyd ffraeo a surni yn yr Orsedd, a chynhaliwyd sawl protest ac ympryd ar gwmpas colegau Prifysgol Cymru. Nid oedd modd i neb osgoi cymryd ochr.


Roedd yn amlwg bod rhywbeth mawr ar droed. Cadarnhawyd hynny gan brotestiadau Cymdeithas yr Iaith. Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1969 ar y Cei Llechi wrth gwr y castell yng Nghaernarfon, daeth oddeutu pum mil o bobl ynghyd. Dyma un o’r ralïau mwyaf llwyddiannus i’r Gymdeithas ei chynnal erioed. Wyneb cyhoeddus y gwrthsafiad i’r Arwisgo, oedd Cadeirydd y Gymdeithas ar y pryd Dafydd Iwan. Gwerthodd ei record ‘Carlo’ dros 13,000 o gopiau, ac ef yn fwy na neb arall o’r ymgyrchwyr wynebodd ddicter a llid brenhinwyr Cymru. Cafwyd protestiadau mawr ym Mhrifysgol Aberystwyth hefyd lle’r oedd Charles yn fyfyriwr am dymor. Un o'r protestwyr mwyaf gweithgar oedd Ffred Ffransis, ac yn y llyfr adroddir ei hanes yn trefnu gwrthdystiadau a cheisio osgoi rhag cael ei ddilyn gan yr heddlu cudd.

 

Wrth gwrs, nid oedd pob gwrthsafiad yn erbyn yr Arwisgo yn rhai di-drais. Yn ystod Hydref 1967, penderfynodd John Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Mudiad Amddiffyn Cymru (MAC), ar bolisi o drefnu ffrwydrad bob tro y byddai aelod o’r teulu brenhinol, neu’r rhai oedd yn ymwneud â chynllunio’r Arwisgo, yn dod i Gymru. Ym marn Jenkins:

 

The only way to be heard is to kick up a fuss. And you’ve got to kick up a fuss that really threatens. That’s why we had to make direct threats to Charles.

 

Cymaint oedd maint y cynnwrf yn y cyfnod, bu’n rhaid i’r awdurdodau ddrafftio catrodau o filwyr, cannoedd o blismyn, heddlu cudd a hyd yn oed agents provocateurs er mwyn sicrhau fod y seremoni yng Nghaernarfon yn un heddychlon. Cofia Twm Elias ddod i gysylltiad â agents provocateur o’r enw Ron Curtis oedd yn dweud ei fod o’n aelod o’r Scottish Liberation Army. Cofia un digwyddiad pan ddaeth Curtis i’w fflat yn Aberystwyth gyda ‘toolbag yn ei law a dyma fo’n agor y bag bach yma ac roedd ganddo flares, walkie talkies a gwn – revolver .38.’

 

I bob pwrpas, gosodwyd rhannau o Gymru dan warchae wrth baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Yng Nghaernarfon, gwelwyd mesurau diogelwch na welwyd eu tebyg o’r blaen. Caewyd ffyrdd yn arwain i mewn i’r dref o bob cyfeiriad. Roedd heddlu a chŵn yn cynnal patrôl bob nos o gwmpas y castell ers misoedd, ac roedd hyd yn oed y Fenai dan warchae diogelwch gyda llongau minesweeper yn cadw llygad ar gychod bach a’u rhwystro rhag dod yn rhy agos at y castell. Aed mor bell â gludo’r gorchuddion manholes er mwyn atal terfysgwyr rhag dod i mewn.

 

Yn sicr, wedi Arwisgo 1969, roedd Cymru yn wlad wahanol. Roedd y gwrthdaro wedi miniogi meddyliau, agor llygaid a rhoi haearn yng ngwaed y mudiad cenedlaethol. Ceir hanes y cwbl yn Dim Croeso ’69. Yng ngeiriau Lyn Ebenezer, ‘Yma cawn y cyfan: y celwyddau a’r cywilydd, y brad a’r briwiau, y gwaseidd-dra a’r gwroldeb, y rhwysg a’r rhyfyg.’