Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Codi arian hanfodol i'r hosbis i blant Tŷ Hafan

Ers iddo agor yn 1999 mae Tŷ Hafan, yr elusen sydd yn cynnig gofal a chymorth i blant a phobl ifanc sy’n byw bywydau byr, wedi cefnogi dros 850 o blant a’u teuluoedd. Fel rhan o ymgyrch codi arian at yr elusen bwysig hon mae un o’i gwirfoddolwyr, Juliet Bebbington, wedi ysgrifennu cyfrol hwyliog i blant gynradd gyda’r holl elw yn mynd tuag at yr hosbis.

Mae Draig o’r enw Môr yn stori am ddraig las, unig sy’n dod o’r môr, sydd dim ond yn cael ei gweld gan rai sy’n credu mewn dreigiau. Mae’r ddraig fach fusneslyd yn mynd i chwarae gyda phlant yr hosbis yn Nhŷ Hafan ac yn mwynhau helpu’r plant a’r staff. Mae’r gyfrol yn dangos gwerth bod yn garedig, i gydymdeimlo a bod yn sensitif i anghenion pobl eraill, ac yn bwysicaf oll, i ddangos cariad. Mae’r stori wedi ei rhannu’n benodau byrion, lle mae’r ddraig yn helpu’r plant mewn sefyllfaoedd penodol, fel mynd am drip i lan y môr, sychu dillad, a therapi cerdd.

Mae’r awdures, Jilly Bebbington, wedi bod yn gweithio fel cynorthwyydd gwirfoddol yn Nhŷ Hafan ers dros 20 mlynedd. Meddai:

“Rwyf wedi darllen a dyfeisio gymaint o storïau i’r plant yn yr hosbis dros yr 20 mlynedd rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yno. Er y rhesymau trist y tu ôl i fodolaeth yr hosbis mae’n lle hwyliog iawn – y lle mwyaf hwyliog rwyf erioed wedi gweithio ynddo. Mae ’na ymdeimlad o carpe diem yn perthyn i’r lle. Mae’r hosbis yn gwneud gwaith mor bwysig gyda’r plant a’u teuluoedd, roeddwn yn awyddus iawn i godi arian iddyn nhw. Mae hyd yn oed yn fwy pwysig nawr, gan fod holl gynlluniau codi arian yr elusen wedi bod ar stop ers Covid-19.”

Meddai Aled Islwyn, a gyfieithiodd y llyfr i’r Gymraeg:

Mae codi ymwybyddiaeth o waith gwerthfawr Tŷ Hafan yn arbennig o bwysig ac amserol ar y funud, am fod peth sylw wedi’i roi’n ddiweddar i sefyllfa ariannol fregus y sefydliad. Dyw Tŷ Hafan ddim yn rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Elusen ydyw, ac yn ogystal â derbyn ein cefnogaeth ariannol, mae’n bwysig ein bod yn gwerthfawrogi cyfraniad y lle i’n cymdeithas, ac i bawb sy’n ei gynnal.”

Tŷ Hafan yw un o brif elusennau gofal lliniarol pediatrig y Deyrnas Unedig ac mae’r elusen yn cynnig y gwasanaeth dros Gymru gyfan. Er mwyn sicrhau’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, mae angen i’r elusen godi £4.4. miliwn y flwyddyn.

“Roedd yn bleser cael bwrw iddi i addasu’r straeon hynod wreiddiol hyn i’r Gymraeg. Maen nhw’n annwyl ac yn smala, ac yn rhoi cip annisgwyl inni ar waith llesol Tŷ Hafan. Un o’r pethau rwy’n ei edmygu fwyaf yw’r ffaith fod yr adnoddau a’r triniaethau a gynigir yno wedi eu gwau’n rhan annatod o’r straeon. Dyma le sy’n cynnig cysur a diddanwch i blant bregus, heb sôn am roi hoe i rieni sy’n byw dan fygythiad argyfyngus parhaus. Gallwn ymdeimlo â naws a dyhead y lle yn y storïau hyn,” meddai Aled Islwyn.

Mae’r gyfrol yn gydweithrediad rhwng y Lolfa a Thŷ Hafan, ac mae fersiwn Saesneg hefyd ar gael (A Dragon Called Môr). Mae lluniau du a gwyn i gyd-fynd â’r testun gan Andrea Grealy. Bydd holl elw’r gyfrol yn mynd tuag at yr hosbis.