Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cip olwg ar hanes Trawsfynydd ym mlwyddyn fawr Hedd Wyn

Caiff hanes ardal Trawsfynydd ei adrodd o'r newydd mewn cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon.

Mae Traws-Olwg - Trawsfynydd a'r Ardal Fel y Bu yn lyfr llawn lluniau trawiadol hwn yn adrodd stori ddramatig bro Trawsfynydd. Fe'i lluniwyd yn gyfrol gofiadwy gan y ffotograffydd Keith O'Brien a chwmni cymunedol Traws-Newid a sefydlwyd yn 1998 gyda'r nod o wella economi, amgylchedd ac agweddau cymdeithasol yr ardal.

O agor rheilffordd rhwng y Bala a Blaenau Ffestiniog i sefydlu gwersyll hyfforddi milwrol ar gyrion y pentref, codi argae er mwyn creu Llyn Trawsfynydd ac adeiladu'r atomfa – mae hanes ardal Trawsfynydd yn ddifyr tu hwnt.

Cyhoeddir hi i gofio canmlwyddiant marwolaeth Hedd Wyn ac Eisteddfod y Gadair Ddu yn haf 2017, ac mae'n cynnwys rhagair gan y llenor Dewi Prysor sydd hefyd yn frodor o'r ardal.

'Mae nifer o gyfrolau gwahanol a rhagorol wedi eu cyhoeddi am Hedd Wyn eleni, gobaith y gyfrol hon yw dangos yr ochr arall i Traws, ei hanes, diwylliant a diwydiant o ddechrau'r ganrif ddiwethaf - rhywbeth sy'n agor llygaid y darllenydd i gymuned glos sydd wedi gweld newidiadau rhyfeddol i'w thirlun a'i chymdeithas dros y blynyddoedd a fu sy'n dangos yr ochr 'arall' i hanes Traws' eglurodd Keith O'Brien.

'Un o'r straeon mwyaf difyr i mi yw hanes y balŵn yn torri'n rhydd o'i angorfeydd yn y Camp a hedfan i gyfeiriad Y Bala gyda'r trigolion Penllyn yn meddwl mai'r Almaenwyr oedd yn ymosod!' meddai Keith.

Sefydlwyd Cyfeillion Yr Ysgwrn - cartref Hedd Wyn, a bu i'r Cyfeillion drefnu nifer o ddigwyddiadau i gofio marwolaeth Hedd Wyn yn 2017, gyda Traws-Newid yn cytuno i geisio cyhoeddi'r llyfr fel cyfraniad i gynorthwyo'r Cyfeillion.

'Mae pob llun yn adrodd stori, ac rydan ninnau'n rhan o'r stori honno.' ychwanegodd Dewi Prysor.

Yn enedigol o Drawsfynydd, mae Keith o'Brien yn Swyddog Cynaladwyedd a'r Gymuned i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn Gadeirydd cwmni cymunedol Traws-Newid. Mae'n briod a chanddo ddwy ferch.

Cynhelir lansiad am 7 o'r gloch yn neuadd pentref Trawsfynydd dydd Gwener 21ain o Orffennaf.