Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Chwerthin, cariad a galar - stori Carys Eleri

Yn ei llyfr hunangofiannol newydd, mae’r awdures, y gantores a’r digrifwr Carys Eleri yn rhoi cipolwg o’i magwraeth yn Sir Gaerfyrddin, ei gyrfa liwgar ddilynodd hynny, cyn rhannu’n sensitif hanes diagnosis trasig ei diweddar dad, David Evans, â Chlefyd Motor Niwron yn 2018.

Cafodd Carys ei magu mewn teulu hapus, yn llawn cariad a chwerthin ac roedd ganddi berthynas agos gyda’i thad, sy’n cael ei ddisgrifio fel ei ffan mwyaf a’i ffrind agosaf. Roedd ei sioe gomedi-wyddoniaeth-gerddoriaeth ‘Lovecraft (not the sex shop in Cardiff)’ ar fin cychwyn yng Ngŵyl Fringe Caeredin, pan dderbyniodd y newyddion trasig am farwolaeth sydyn ei thad, ac yntau ond wedi cael y diagnosis ychydig fisoedd cyn hynny.

Dychwelodd i Gymru ar unwaith at ei theulu ac mae’n dal i ryfeddu a diolch i’r gymuned am y cariad a’r gofal a ddangoswyd atynt. Meddai, “Roedd yn eithaf anhygoel sut y gall ffrindiau, teulu a’r gymuned eich amgylchynu ar adeg anodd fel hyn a’ch lapio mewn cariad.

“Roeddwn i wedi bod yn teithio’r wlad gyda fy sioe yn trafod niwro-wyddoniaeth cariad ac unigrwydd, ac yna yn ein horiau tywyllaf, roedd gwir gariad yn pelydru gan danlinellu grym cymuned a’n cariad at ein gilydd – union neges Lovecraft. Roeddwn i’n gwybod y byddai dad wedi bod eisiau i mi barhau â’r sioe, felly dychwelais i Gaeredin ar fyrder i gyfleu’r neges. ”

Fis yn ddiweddarach, cychwynnodd Carys a’i chwaer fawr, Nia ar daith feicio elusennol o Lundain i Baris i godi arian ar gyfer y Gymdeithas Clefyd Motor Niwron – her yr oeddent wedi’i threfnu tra’r oedd eu tad yn dal yn fyw.

Mae’r llyfr yn olrhain eu taith ryfeddol gan rannu’r emosiynau amrwd yr oedd y ddwy ohonyn nhw’n eu teimlo, eu perthynas fel chwiorydd a’r eiliadau doniol yn ystod y daith. “Roedd yn eithaf anhygoel y diffyg paratoi oeddem ni wedi’i wneud ar gyfer y reid honno! Ond fe wnaethom lwyddo, gyda’n beiciau trwm, hen drainers, pac-a-macs polka dot a chwpl o haribos.

“Yn ystod y daith, fe wnaethom ni lwyddo i fynd ar goll a chael cymaint o sylwadau ar sut y dylen ni wneud pethau’n wahanol. Roeddem wir yn teimlo fel hwyaid allan o ddŵr ynghanol y lycra a beics ysgafn fel pluen!

“Mi oedd yn eithaf doniol ond erbyn y diwedd, ar ôl gweld ein gwaith caled a’n penderfyniad wedi’n profedigaeth ddiweddar, cawsom ein derbyn yn llawn gan bawb. Fe wnaethon nhw hyd yn oed ofyn i ni arwain pawb i mewn i Baris at y llinell derfyn, sef Tŵr Eiffel, er cof am ein tad.

“Fel y gallwch ddychmygu, roedd honno yn foment emosiynol iawn.”

Y flwyddyn ganlynol, ym mis Tachwedd 2019, wynebodd Carys drasiedi arall o golli un o’i ffrindiau gorau, Trystan Wyn Rees, i ganser y pancreas.

Roedd Trystan yn byw yn Awstralia, ac mae Carys yn teimlo nad yw hi wedi cael amser o hyd i brosesu’r brofedigaeth yn iawn. Meddai, “Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig iawn rhannu emosiynau a phrofiadau yn dilyn profedigaeth – mae’r broses alaru yn cymryd amser. Nid yw’r boen yn dod i ben ar ôl yr angladd – mewn gwirionedd, dyna’r dechrau.

“Bu farw Trystan ychydig fisoedd yn unig cyn y pandemig, ac felly nid ydym wedi cael amser i brosesu’r brofedigaeth honno fel criw o ffrindiau. Roedd yn anodd iawn felly, ond yn hynod therapiwtig, ail-ymweld â’r holl eiliadau pwysig hynny wrth ysgrifennu’r llyfr.

“Dwi’n meddwl am y rhai sydd wedi colli rhywun yn ystod yr amseroedd hyn, heb y cyfle i gynnal angladd a thalu parch yn y ffordd y mae’r person rydych chi wedi’i golli yn ei haeddu, ac i’w dathlu.”

Wrth alaru am ei thad a Trystan, mae Carys yn teimlo ei bod wedi ailgysylltu â natur ac yn dweud ei fod wedi bod yn help mawr iddi wneud synnwyr o fywyd a marwolaeth, gan ei angori i’r presennol pan mae’r straen a’r boen wedi bod yn ormod.

Meddai, “Natur yw popeth. Rydyn ni’n anghofio ein bod ni’n rhan annatod o gylch natur fel bodau dynol, ac weithiau yn meddwl ein bod ni’n rhagori ... ond dydyn ni ddim, rydyn ni’n rhan ohono.

“Fel siaradwr Cymraeg, rwy’n aml yn defnyddio’r gair ‘mamiaith’ i gyfeirio at y Gymraeg fel fy iaith gyntaf, lle mae’n ddigon posib mai ein mamiaith fel bodau dynol yw natur – y cyswllt, a’r iaith yr ydym yn aml yn anghofio ac yn gadael iddi ddiflannu. ”