'Campwaith' Goronwy Wynne yn cael ei ail argraffu
Mae'r gyfrol Gymraeg gyntaf i geisio cyflwyno hanes a sefyllfa planhigion Cymru, Blodau Cymru: Byd y Planhigion, yn cael ei ail argraffu yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa ar ôl yr ymateb syfrdanol i’r argraffiad cyntaf.
Cafodd y gyfrol ei gyhoeddi'n wreiddiol ar ddiwedd mis Tachwedd 2017, ac mae'r gyfrol hir-ddisgwyliedig wedi bod yn boblogaidd dros ben, gyda Bethan Wyn Jones yn disgrifio'r gyfrol fel 'perl o lyfr' yng nghylchgrawn Barn ym mis Ebrill.
Mae'r llyfr, sydd yn gyfrol clawr caled gyda dros pum cant o luniau yn cwmpasu gwaith oes y botanegwr Goronwy Wynne, fu'n brif ddarlithydd Bioleg a Chofnodydd i Gymdeithas Fotaneg Prydain ac Iwerddon ac yn olygydd Y Naturiaethwr i Gymdeithas Edward Llwyd. Yn 2014 derbyniodd Fedal Wyddoniaeth yr Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Goronwy: "Mae byd y blodau yn agos iawn at fy nghalon i, ac er 'nad yw pawb yn gwirioni'r un fath' rydw i'n hynod o falch fod y llyfr wedi gwerthu mor dda".
Mae'r gyfrol wedi rhyfeddu Yr Athro Dei Tomos, a ddisgrifiodd y llyfr yn 'gampwaith, a ffrwyth cariad oes'.
Dywed Rheinallt Llwyd yng Nghylchlythyr Cymdeithas Edward Llwyd am y llyfr ac ymroddiad Goronwy Wynne: ‘Ni allwn ond rhyfeddu at y gamp anhygoel a gyflawnodd [Goronwy Wynne]. Cyfuniad o'r gwyddonydd a'r hanesydd a'r llenor Goronwy Wynne ar ei orau. Dyma, yn sicr, lyfr y flwyddyn’.
Yn ôl Lefi Gruffudd o’r Lolfa: “Bu gwerthiant ardderchog i’r gyfrol ers ei chyhoeddi yn Nhreffynnon ym mis Tachwedd. Gwerthodd dros 500 o gopïau erbyn y Nadolig, sy’n eithriadol o dda i lyfr clawr caled arbenigol o’r fath.”
Mae Blodau Cymru yn trafod enwau, dosbarthiad a chynefinoedd planhigion Cymru. Sonir am ecoleg y planhigion - y rhai cyffredin a'r rhai prin. Mae’n gyfrol i'r arbenigwr ac i bawb gyda diddordeb a mwynhad o flodau Cymru.