Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

“Camp Lawn” Llyfr y Flwyddyn i’r Lolfa

Yn ogystal â dathlu pen-blwydd y cwmni yn 50 oed bu 2017 yn flwyddyn ragorol i’r Lolfa o ran cyhoeddi gyda chwech o lyfrau’r cwmni yn cael eu dewis ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn. O’r tri llyfr ar y rhestr fer yn y categorïau Ffeithiol Creadigol a Ffuglen, cyhoeddwyd y cyfan gan Y Lolfa.

Dywedodd Garmon Gruffudd ar ran Y Lolfa:

“Roedd y llynedd yn flwyddyn arbennig iawn i ni fel gwasg ond mae’r diolch i gyd i’r awduron. Mae yna sawl campwaith ar y rhestr eleni, sy’n cynnwys llyfrau sydd wedi bod ar waith ers blynyddoedd maith. Yn sicr mae’r llyfrau a’r awduron yma yn haeddu pob clod a sylw phosib.”

Dyma restr lawn o’r llyfrau sydd ar y rhestr fer:

Ffeithiol Greadigol

Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams

Cyfrol hynod ddifyr yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am feddyginiaethau gwerin, sy’n ffrwyth llawer o ymchwil fanwl ym mhob ardal yng Nghymru.

Ar Drywydd Niclas y Glais gan Hefin Wyn

Dyma'r cofiant cyflawn cyntaf i Niclas y Glais, (T. E. Nicholas, 1879-1971), y Comiwnydd a'r Cristion o ardal y Preseli.

Blodau Cymru gan Goronwy Wynne

Cyflwyniad cynhwysfawr, darluniadol i flodau a phlanhigion Cymru ynghyd â chynefinoedd, ecoleg, hanes a nodweddion y planhigion.

Ffuglen

Gwales gan Catrin Dafydd

Mae Brynach Yang am orffen popeth. Ac mae’n mynd i’w wneud e. Heno. Ond beth fydd yn digwydd i Gymru wedyn? Mae ymgyrch Gwales ar fin dechrau ar siwrne gythryblus... a Brynach sy’n arwain y chwyldro...

Fabula gan Llŷr Gwyn Lewis

Buenos Aires, Rhufain, Dulyn, Barcelona, Kyoto, Aberystwyth a Bro Morgannwg: rhai o’r llefydd lle mae gwyfynod y gyfrol hon yn hedfan iddynt gan hofran yn y trwch adain gwybedyn sydd rhwng hanes a stori. Ym myd y fabula, gall ffuglen droi’n wirionedd, a ffaith yn freuddwyd.

Hen Bethau Anghofiedig gan Mihangel Morgan

Mae gan Merfyn stori iasoer i’w rhannu, un sy’n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ôl ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a’i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu’r hen le ac ymddeol a bywyd gwyllt dinas Llundain... ond wrth i Merfyn godi’r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fêr eu hesgyrn. Stori ysbryd iasoer gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.