Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Calendr Clo-rona 2021: Cantorion noeth yn codi arian at achos da

Yr wythnos yma cyhoeddir calendr noeth o gantorion clasurol Cymraeg i goffáu’r cyfnod clo ac i godi arian at yr elusen iechyd meddwl Gymraeg, Meddwl.org. Mae Calendr Clo-Rona 2021 yn galendr hwyliog sydd wedi datblygu o grŵp Facebook a grewyd i ysgafnhau baich y cyfnod clo.

Catrin ‘Toffoc’ Jones bu’n cydlynu’r prosiect, a wnaethpwyd yn ystod y misoedd diwethaf. Meddai Catrin:

“Ro’n i wedi gweld yr effaith bositif oedd y grŵp Facebook Côr-ona yn ei gael ar bobl yn y cyfnod clo a sut roedd gwylio’r perfformiadau ar y grŵp yn codi calonnau pobl. Felly mi ddaeth y syniad i mi fod angen mwy fyth o godi calon a chwerthin yn ystod y cyfnod ansicr yma, ac y byddai calendr noeth yn andros o hwyl! Mae’n debyg taw dyma’r unig galendr o bosib sydd wedi cael ei gynhyrchu heb ffotograffwyr proffesiynol yn ystod y cyfnod clo – felly calendr unigryw!”

Mae nifer o’r cantorion sydd yn y calendr yn ffrindiau i Catrin, fel Steffan Lloyd Owen, Ieuan Jones a Ryan Vaughan Davies. Ynghyd â’r tri yma, mae’r calendr yn cynnwys Rhys Meirion, Aled Hall, Huw Euron, John Ieuan Jones, Meilir Jones, Rhydian Jenkins a Steffan Prys Roberts. Mae 2 o’r lluniau yn rhai grŵp.

“Mae’r cantorion proffesiynol clasurol fel arfer yn canu’n ddifrifol ar lwyfannau yn eu siwtiau crand, felly penderfynais byddai’n dda gweld ochr wahanol i’r criw! Gyda help Steffan Lloyd Owen, Ieuan Jones a Ryan Davies, a oedd eisoes yn ffrindiau â’i gilydd, aethom ati i gasglu enwau, a chyn pen dim roedd ganddon ni ddeg canwr adnabyddus yn fodlon dinoethi at achos da! Rydan ni wedi cael wythnosau o chwerthin a thynnu coes – homar o hwyl!”

Dewiswyd Meddwl.org fel yr elusen i’w chefnogi yn sgil y sefyllfa anodd mae’r Coronafeirws wedi creu. Meddai Catrin, “Mae Meddwl.org yn gwneud gwaith arbennig yn cefnogi pobl fregus yn ystod cyfnod anodd ac yn codi calonnau, sef union bwrpas y calendr yn ei hanfod – codi gwên ac ysbryd pobl.”

Sefydlwyd Meddwl.org fis Tachwedd 2016 a chaiff ei redeg gan grŵp bach o wirfoddolwyr. Mae’r elusen yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg gwybodaeth cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, ac yn ceisio helpu pobol sy’n byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u ffrindiau.