Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bywyd bob dydd a bwydo – llyfr sy’n hwyluso’r broses

Mae Bwydo’r Teulu gan Nia Wyn Tudor (Y Lolfa) yn llyfr sydd â’r bwriad o wneud coginio yn rhwydd, yn realistig ac yn hygyrch ar gyfer pawb, waeth beth yw natur a strwythur eu bywydau bob dydd. Ynghanol yr holl brysurdeb, mae coginio yn aml yn cael ei wthio o’r neilltu, sydd yn naturiol pan mae cymaint o bethau eraill yn galw. Dyna pam mae cymaint o unigolion, partneriaid a theuluoedd yn chwilio am ffyrdd o symleiddio’r broses, ac mae’r llyfr hwn yn un sy’n ateb y galw hwnnw.

Mae’r llyfr wedi’i rannu yn adrannau gwahanol – brecwast, prydau bwyd, byrbrydau, pwdinau. Felly, os ydych chi’n chwennych myffins banana, puprod wedi’u stwffio, peli egni hafaidd neu bwdin jam, mae’r llyfr hwn yn cynnwys pob un, a mwy! Ac os ydych chi, fel yr awdur, wedi cwestiynu pethau megis: ‘Beth sydd i frecwast? Beth am ginio? Oes rhaid cael swper?’, bydd y llyfr hwn yn sicr ddigon o hwyluso pethau i chi. Cenhadaeth arall y llyfr yw taro golau ar bwysigrwydd cael plant i ymddiddori mewn bwyd, i flasu gwahanol fwydydd a choginio bwyd o oed ifanc iawn, felly rhywbeth allweddol i’r awdur oedd peidio â gorgymhlethu pethau.

Meddai’r awdur:

'Dwi’n ei chael hi'n anodd credu bod gen i lyfr, gyda fy llun i a ’mhlant bach ar y clawr – dwi ond yn athrawes Drama! 

‘Bwriad y llyfr yw helpu teuluoedd i greu prydau blasus sy’n rhwydd ac iachus i’w gwneud. Mae’r llyfr yn cynnwys ryseitiau sy’n addas ar gyfer teuluoedd, gydag ambell rysáit yn berffaith ar gyfer dau oedolyn a dau blentyn, ac yna ambell un yn benodol ar gyfer y plant! Gan feddwl bod y dudalen Instagram yn cael ei hanelu at rai bach, gyda’r enw Bwydo Rhai Bach, roeddwn am ehangu fy nghynulleidfa darged ac felly penderfynon ni alw’r llyfr yn Bwydo’r Teulu er mwyn sicrhau bod pawb yn manteisio ar y cyfle o dreialu ac arbrofi gyda’r bwydydd lliwgar yma.’

Mae Nia Wyn Tudor yn fam i ddau o blant bach, Nansi a Ffredi, ac yn bartner i Zack. Mae hi hefyd yn athrawes Drama yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg ac yn byw yn y Barri. Mae’n rhannu ryseitiau a chynghorion am fwy ers y cyfnod clo cyntaf ar ei chyfrif Instagram poblogaidd, Bwydo Rhai Bach.

Gyda diolch i Glyn Rainer am y lluniau ac i Elgan Griffiths am ddylunio’r gyfrol. 

Mae Bwydo’r Teulu gan Nia Wyn Tudor ar gael nawr (£12.99, Y Lolfa.)