Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Bywyd a Bwyd Colleen Ramsey: Gwraig Colleen Ramsey yn cyhoeddi cyfrol o ryseitiau yn Gymraeg

Mae cyfrol goginio gyntaf Colleen Ramsey ar fin gyrraedd y siopau ac mae’n llawn amrywiaeth blasus o ryseitiau i blesio pawb. Mae’r llyfr dwyieithog trawiadol yn cyd-fynd â chyfres deledu gyntaf Colleen, Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd, fydd yn dechrau ar S4C ar Ragfyr yr 28ain.

Mae Colleen Ramsey yn gogydd sy’n gyfarwydd i’w nifer fawr o ddilynwyr ar Instagram. Mae’n mwynhau creu prydau gwahanol a rhannu lluniau gyda’r gymuned o bobol sy’n cael blas ar fwyd.

Dwi’n meddwl am fwyd trwy’r amser a sut alla i fod yn greadigol,’ meddai Colleen Ramsey. ‘Dyna sut dwi’n dangos gofal a chariad i’r bobol dwi’n eu caru fwyaf!’

Mae bwyd Colleen yn tynnu dŵr o ddannedd ac yn cael ei ddylanwadu gan Gymru a thu hwnt ar ôl iddi deithio’r byd gyda’i gŵr, y pêl-droediwr Aaron Ramsey, a’u tri o blant. Mae Colleen yn dod o Gaerffili yn wreiddiol ac mae’r gyfrol yn cynnwys nifer o ryseitiau sy’n hen ffefrynnau teuluol.

‘Bwyd sy’n fy ngwneud i’n hapus,’ meddai Colleen sydd newydd ddychwelyd o gystadleuaeth Cwpan y Byd yn Qatar ble y bu’n cefnogi tîm pêl-droed Cymru. ‘Dwi wrth fy modd gyda diwylliant bwyd a sut mae’n dod â phobol at ei gilydd – wrth baso’r tatws rhost o gwmpas y bwrdd gyda’r teulu ar ddydd Sul neu wrth fwynhau barbeciw gyda ffrindiau yn yr haf.

‘I fi, bwyd yw bywyd a bywyd yw bwyd – maen nhw’n mynd law yn llaw mewn amseroedd hapus. Dwi’n meddwl am fwyd trwy’r amser a sut alla i fod yn greadigol. Dyna sut dwi’n dangos gofal a chariad at y bobol dwi’n eu caru fwyaf. Dim bwyd ffansi sy’n bwysig i fi, ond y ffordd mae bwyd yn gwneud i chi deimlo. Mae bywyd yn fyr ac yn werthfawr ac mae’n bwysig ein bod ni’n ffeindio rhywbeth sy’n ein gwneud ni’n hapus. Mae coginio, creu a rhannu bwyd yn dod â llawenydd i fi.’

Mae’r gyfrol yn llawn lluniau trawiadol gan y ffotograffydd Glyn Rayner ac mae e wedi ei ddylunio’n hardd gan Jo Hollowood.

Mae Bywyd a Bwyd/Enjoying Life Through Food gan Colleen Ramsey ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa). Ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg ac ar Amazon.