Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Boc ac ar goll unwaith eto mewn llyfr newydd gan Huw Aaron

Yn dilyn llwyddiant Ble Mae Boc? yn y cylchgrawn Mellten, mae Boc y ddraig fach goch yn ôl mewn llyfr newydd sbon y Nadolig yma. Yn y llyfr newydd mae’r ddraig fach ar goll ym myd chwedlau Cymru.

Mae Ble Mae Boc: Ar Goll yn y Chwedlau yn llawn lluniau manwl athrylithgar yr artist Huw Aaron. Meddai’r dylunydd enwog Chris Riddell am y gyfrol newydd:

“Gwledd fendigedig i’r llygaid – mae pob tudalen yn gorlifo gyda hiwmor a dyfeisgarwch.”

Meddai Huw Aaron, awdur a dylunydd yr holl luniau yn y gyfrol:

“O’n i’n meddwl bod hi’n bryd i Boc gael antur arall, a gan fy mod i’n gymaint o ffan o chwedlau Cymru ac yn hoff o arlunio pethau rhyfedd a rhyfeddol, taith trwy rai o’n chwedlau oedd y dewis naturiol. Gobeithio bydd y llyfr yn sbardun i blant i fynd i ddarllen mwy am y straeon sydd yn y llyfr – Cantre'r Gwaelod, y Mabinogi, Culhwch ac Olwen – mae cymaint ar gael!”

“Mewn ffordd, rhyw fath o lythyr serch at ddarllen yw’r llyfr yma, a’r ffordd ry’n ni’n gallu teithio i fydoedd eraill rhwng cloriau llyfrau – a mynd ar goll, fel Boc. Mae un o’r golygfeydd yn y llyfr yn cynnwys cymaint o gymeriadau o lyfrau plant Cymru ag o’n i’n gallu ffitio i mewn – dathliad o’n llenyddiaeth gyfoethog, lliwgar, ac unigryw. A, dwi’n gobeithio, teyrnged i’n hawduron ac arlunwyr gwych hefyd, sydd wedi dod â chymaint o bleser i mi a fy mhlant dros y blynyddoedd. Roedd hi’n lot o waith arlunio’r lluniau manwl sydd yn y llyfr, ac roedd hi’n brofiad rhyfedd trwy’r Clo Mawr unig i fod yn arlunio torfeydd o bobl wedi’u gwasgu’n agos at ei gilydd!”

Mae Ble Mae Boc?: Ar Goll yn y Chwedlau yn cynnwys 10 llun tudalen ddwbl, gyda phob taenlen yn dangos golygfa newydd sbon, gan gynnwys Y Mabinogi, Cantre’r Gwaelod, Pentref yr Hwiangerddi, Teyrnas y Tylwyth Teg, Yr Helfa Fawr, Ynys yr Ifanc, Sw Angenfilod, Arswyd Annwn, Cwm y Cewri a Pharti Llyfrau Plant. Y nod unwaith eto yw dod o hyd i Boc sy’n cuddio ym mhob llun, ac mae hefyd dros 200 o bethau eraill i’w darganfod. Mae oriau o hwyl a chraffu i hyd yn oed y ddraig-chwiliwr gorau.

“Dwi mor ddiolchgar i’m rhieni am fagu cariad at ddarllen ynof i, trwy lyfrau, a thripiau wythnosol i’r llyfrgell. Mae’r diddordeb wedi parhau: dw i dal methu cysgu heb ddarllen ryw nofel, ac wrth fy modd pan fydd rhywun yn dweud wrtha i eu bod nhw wedi mwynhau un o fy llyfrau. Mae’n gwneud yr holl ymdrech yn werth chweil, i helpu pasio mlaen y bug darllen i’r genhedlaeth nesa,” meddai Huw.