Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Biliwn o Blobens' - Comic Mellten yn dathlu pen-blwydd

Mae un o gylchgronau mwyaf poblogaidd Cymru yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf gyda chyhoeddi'r pumed rhifyn yr wythnos hon union flwyddyn ar ôl lansio'r comic yn wreiddiol.

'Mae Mellten yn un oed! Mae wedi bod yn wych i weld plant dros Gymru gyfan yn mwynhau dod i adnabod cymeriadau Mellten dros y flwyddyn diwethaf,' meddai'r golygydd Huw Aaron. 'Un o'r ffefrynau gyda'r plant dwi wedi cwrdd â nhw ydy Bloben, y bwystfil barus borffor, felly, pa ffordd well i ddathlu na tywallt biliwn o Blobens dros y comic?'

'Ond pa un yw'r Bloben go iawn? Bydd angen i chi chwilio'n fanwl!' ychwanegodd Huw. 'Hefyd, wrth gwrs, ceir y gymysgedd arferol o straeon, hwyl, jôcs a dwli yr ydych wedi hen arfer ag e erbyn hyn! Joiwch!'

Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma'r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i'w gyhoeddi ers degawdau. Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron, mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.

'Y syniad oedd creu rhywbeth newydd a gwreiddiol i blant fyddai ddim ond ar gael yn y Gymraeg,' meddai Huw Aaron. 'Roeddwn am weld pwyslais ar straeon newydd, gafaelgar, ac arlunio bywiog a lliwgar i loni, dychryn, denu, sbarduno ac achosi plant i chwerthin ac i gipio eu dychymyg.'

'Roeddwn i hefyd am geisio creu rhyw fath o gymuned parhaus y gallai plant ymwneud ag ef.' ychwanegodd.

Yn nhudalennau'r pumed rhifyn mae mwy o anturiaethau gyda Gwil Garw a'r crisial hud, ras criw Rali'r Gofod, a mwy o ddirgelwch Yr Allwedd Amser.

'Roeddwn i hefyd am geisio creu rhyw fath o gymuned barhaus y gallai plant ymwneud â hi,' ychwanegodd.

Yn nhudalennau'r pumed rhifyn mae mwy o anturiaethau gyda Gwil Garw a'r crisial hud, ras criw Rali'r Gofod, a mwy o ddirgelwch Yr Allwedd Amser.

Ceir hefyd stori ryfedd am ddraig penhesgyn gan Jac Jones a chwrdd â ffrind newydd Gari Pêl, Llionel Methi. Ailymunwn hefyd â Boc, y ddraig fach druenus, sydd ar goll yng nghanol biliwn o Blobens.

Mae hefyd cyfle arbennig i ennill llyfr newydd Stori Brenin Arthur gan wasg Rily.

Bydd y rhifyn nesaf o Mellten yn ymddangos ym mis Medi. Mae modd prynu copïau unigol o Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy'r wefan, ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg y Lolfa. Mae cyfle hefyd i danysgrifiwyr aildanysgrifio eto.