Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Beti George yn canmol nofel ingol am gariad a dementia

Mae’r awdures boblogaidd Mared Lewis yn cyhoeddi nofel fer, Gemau, sy’n mynd i’r afael â phwnc dwys, agos at ei chalon – dementia. 

Hwn ydy'r llyfr hawsaf ac anoddaf dwi wedi ei sgwennu rioed. Tan i ddementia guro ar ddrws ein teulu ni, do'n i ddim wedi meddwl llawer amdano o ddifri erioed. Roedd yn rhywbeth oedd yn digwydd 'tu allan' neu i rywun arall. Erbyn hyn dwi'n sylweddoli pa mor gyffredin ydy o, ei fod yn un o'r afiechydon creulonaf, sy'n ceisio rhwygo dioddefwyr oddi wrth eu teuluoedd a'u ffrindiau, oddi wrth eu profiadau, oddi wrthyn nhw eu hunain, deud y gwir,” meddai Mared Lewis. 

Meddai Beti George am y nofel:

“Mae Mared wedi ei deall hi! Mor gelfydd yw ei darlun o fywyd Rose a Cleif wrth i dementia alw heibio, gan setlo ar eu haelwyd a chreu hafog. Stori gariad, wedi ei hadrodd yn gywrain ac annwyl.”

Mae Gemau yn dilyn Rose, ei gŵr Cleif, a’i merch Nina. Mae’r nofel yn amlygu’r anwyldeb sydd rhwng gŵr a gwraig, wrth i Cleif edrych ar ôl Rose, er gwaethaf yr heriau. Mae’n dangos y berthynas newydd sy’n datblygu rhwng Rose a Nina, ar ôl blynyddoedd o fod ar wahân, perthynas annwyl ac ingol ar yr un pryd wrth i’r ddwy ddod i nabod ei gilydd o’r dechrau. Mae’r sgwennu yn onest ac yn sensitif ac mae’r nofel fer hon yn sicr yn mynd i ennyn trafodaeth. 

“Ar un wedd, does 'na ddim llawer o gysur mewn dementia - does 'na ddim gwellhad. Ond y gwir amdani ydy bod cariad yn goresgyn hyn i gyd yn y diwedd. Mae un wên, un fflach o adnabyddiaeth yn profi bod y person, a'r cariad yn dal yno. Ac i'r teulu, i'r partner, i'r ffrind, mae hynny'n fflach sy'n werth y byd, sy'n eu cynnal, sy'n eu hatgoffa bod y person go iawn yno o hyd, a'u bod angen eich gofal a'ch cariad yn fwy na dim arall,” meddai Mared. 

Yn nodweddiadol, mae pob adran yn dechrau gyda disgrifiad o wahanol emau, sydd yn cael eu cyflwyno mewn gweithdai ar ddementia. Mae nodweddion gwahanol emau, fel saffir, emrallt a pherl, yn adlewyrchu sgiliau sydd yn dal i fod gan y person sy’n dioddef o ddementia, yn hytrach na’r sgiliau sydd wedi cael eu colli. 

Mae'r nofelig yn dangos pwysigrwydd rhwydwaith i gefnogi'r claf a'r gofalwr. Y peth anoddaf efo'r cyflwr ydy'r teimlad eich bod ar eich pen eich hun, a ddim yn gwybod lle i droi nesa. Mae unrhyw fforwm o drafodaeth, boed wyneb yn wyneb, neu drwy ddefnyddio llenyddiaeth neu gelf fel ysgogiad, yn beth gwerthfawr. Ac mae trafodaeth yn lleihau’r stigma hefyd, stigma sydd yn dal yno, yn llechu rhwng brawddegau,” meddai Mared.