Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Beca ddewr, y bwlis a’r byd mawr – stori un ferch a’i chariad at nofio

Mae llyfr newydd o’r enw Sblash! gan Branwen Davies (Y Lolfa) yn mynd at grombil y profiad o dyfu i fyny, a’r heriau dirifedi sy’n wynebu pobl ifanc wrth iddynt geisio ffeindio eu traed eu hunain yn y byd. Aiff yr awdur ar ôl y newidiadau sy’n perthyn i’r oedran bregus hwn, a hynny ar lefel gorfforol ac emosiynol fel ei gilydd. Mae hi’n edrych ar y dicter, y rwystredigaeth, yr embaras a’r dryswch drwy lens ystyriol a didwyll, ac yn dangos bod yna fwy o ddyfnder i’r profiad o fod yn arddegolyn na’r hyn y mae’r gair ‘angst’ yn ei ddal.

Meddai’r awdur:

‘Wrth dyfu i fyny, roeddwn i’n groten blwmp iawn tan fy mod i’n cyrraedd fy arddegau ac yn ymwybodol iawn o fy siâp a’r ffordd roedd eraill yn ymateb iddo (yn negyddol, heb os), a’r pethe ro’n nhw’n cymryd fy mod i’n gallu eu gwneud yn gorfforol. Rwy’n gobeithio felly bod cymeriad Beca yn un mae pobol ifanc yn gallu uniaethu gydag e, tra hefyd yn chwalu ambell i ragdybiaeth a myth, a hynny mewn mwy nag un ffordd. Wnes i dyfu lan mewn byd heb ryngrwyd, na chyfryngau cymdeithasol (na hyd yn oed ffonau symudol wedi meddwl!) Wrth gwrs, mae’r pethe hyn yn ychwanegu haenen arall o gymhlethdod i’r profiad o fod yn eich arddegau y dyddiau yma.’ 

Rhywun sydd wedi’i phlesio gan y darllen yw Nia Parry – sy’n wyneb cyfarwydd ar S4C. Meddai am y llyfr:

‘Mi oeddwn i efo Beca bob cam o’r ffordd. A deud y gwir, mi oedd darllen y llyfr yma fel therapi i fi – yn codi’r hen deimladau annifyr yna o deimlo’n anghyfforddus yn fy nghroen wrth dyfu i fyny. Doedd tyfu fyny ddim yn hawdd, nag oedd?! Roedd y troeon yn y stori yn cadw diddordeb, y cymeriadau yn gryf, yn gyfarwydd ac yn gredadwy. Stori afaelgar sy’n ein hannog i gwestiynu ac edrych ar sefyllfaoedd o sawl gwahanol gyfeiriad er mwyn cael y darlun llawn. Dylai bob bwli a phob person sydd wedi cael eu bwlio ddarllen y llyfr yma.’

At hynny, meddai Heledd Cynwal, sydd eto’n wyneb ac yn llais cyfarwydd ar S4C a Radio Cymru, ac yn fam i dri o blant yn eu harddegau:

‘O’r frawddeg gyntaf, sy’n ddigon pigog, mae rhywun isie gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd ym mywyd Beca. Mae’n nofel, wi’n credu, fydd yn apelio yn fawr at bobl ifanc fydd yn gallu uniaethu â’r pryderon, y disgwyliade a’r ddeialog fewnol sy’n gallu mynd yn drech na rhywun weithie.

‘Mae’n nofel hefyd sy’n llawn fflachiade o hiwmor a thafodiaith, cynhesrwydd cyfeillgarwch, ac ambell i dro annisgwyl sy’n gwneud i ni i gyd gwestiynu ein hunain a chymryd cam yn ôl cyn pasio barn!’

‘Mae’r disgrifiadau sydd yn Sblash! yn adlewyrchu’n berffaith shwt beth yw hi i fod yn berson ifanc y dyddie ’ma, a na’th e lwyddo ar yr un pryd i fynd â fi yn ôl i ddyddie ysgol, ac uniaethu â’r profiad emosiynol o ddelio â thirlun heriol ein harddegau. Fe ges i wir flas ar y llyfr!’

Merch o Ddyffryn Teifi yw Branwen Davies, ac mae’n gweithio ym myd y cyfryngau. Mae ganddi ddau o blant, gormod o geffylau ac un ci, a’r rhain sy’n mynd â’i hamser rhydd, ei hegni a’i harian!

Mae Sblash! gan Branwen Davies ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa).