At y perfedd, at y pydredd - gwirioneddau'r goeden deulu
Y mis hwn, cyhoeddir Powell (Y Lolfa)
gan Manon Steffan Ros. Nofel yw hon am hogyn ifanc, Elis, sy’n olrhain hen
achau ei gyn-deidiau drwy ymchwilio i’w goeden deulu. Fel un sydd wastad wedi
arddel balchder o fod yn un o’r Powells, sylfaenwyr ei dref, ergyd yw’r hyn a
ddaw i’r wyneb am hanes haenog a chymhleth ei deulu. Digwyddai hyn pan aiff
Elis gyda’i daid i Virginia i ymchwilio ymhellach i orffennol ei deulu, a
threiddio’n ddyfnach at gysylltiadau ei deulu â chaethwasiaeth.
Meddai’r awdur:
‘Dwi’n meddwl mai
dyma’r nofel sydd wedi cymryd hiraf i mi ei sgwennu – fe ddaeth y syniad yn ôl
yn 2018. Ro’n i’n dechrau dod i sylweddoliad fod ’na gymaint mwy i hanes Cymru
na wyddwn i amdani. Ro’n i’n paratoi arddangosfa yng Nghastell Penrhyn am
gysylltiad y lle efo caethwasiaeth, pan ddes i ar draws hanes J.
Alexander, a gymerwyd ar long o Ynys St Vincent i Lerpwl – llong oedd â
chapten a oedd yn Gymro Cymraeg. Cymaint oedd dylanwad y Gymraeg ar y llong, fe
ddysgodd J. Alexander i ysgrifennu, siarad a chanu yn Gymraeg erbyn diwedd ei
daith. Roedd yr hanes yma yn sioc enfawr i mi, ac ro’n i’n synnu’n fawr nad
oedd ei enw a’i hanes yn adnabyddus yng Nghymru.
Dwi’n edmygu’n fawr yr ymgais ddiweddar gan bobol i
gael mwy o hanes Cymru yn ein hysgolion, a tydi’r hanes yna ddim wastad yn un
sy’n gyfforddus iawn i’w hwynebu, fel cysylltiad Cymru efo caethwasiaeth. Mae
dysgu a chydnabod y rhannau yna o’n hanes yr un mor bwysig â’r gweddill.
Wedi dweud hynny, stori afaelgar sy’n bwysig a dwi’n
gobeithio bod hanes Elis, a’i berthynas efo’i daid, yn asgwrn cefn difyr i’r
nofel hon. Mae mwy na hanner y nofel wedi ei lleoli yn Virginia, ac am ’mod i
wedi ’sgwennu’r rhan fwyaf tua diwedd y cyfnodau clo, ro’n i’n treulio llawer o
amser ar Google Earth yn trio dod i ’nabod y llefydd!
Fyddwn i byth yn sgwennu nofel o bersbectif caethwas –
does gen i mo’r profiad na’r hawl diwylliannol i wneud hynny – ond roedd o’n
teimlo’n bwysig i mi fod ’na gornel fach o’n llenyddiaeth ni yn cydnabod y rôl
a chwaraeodd Cymru yn y rhan ofnadwy yma o hanes.’
Mae Manon yn awdur ac yn ddramodydd sydd wedi ennill
nifer o wobrau am ei llyfrau i blant a phobl ifanc. Llyfr Glas Nebo oedd Llyfr
y Flwyddyn 2019 ac enillodd 5 wobr Tir na n-Og – Trwy’r Tonnau, Prism, Pluen,
Fi a Joe Allen a Pobl Drws Nesaf. Mae’n dod o Riwlas, Dyffryn Ogwen, yn
wreiddiol ond mae hi bellach yn byw yn Nhywyn.
Mae Powell gan
Manon Steffan Ros ar gael nawr (£8.99, Y Lofla)