Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Arwr Mabinogaidd i'r arddegau gan yr awdur Alun Davies

Mae’r awdur llyfrau ditectif Alun Davies wedi penderfynu mentro o fyd oedolion a throi at sgwennu nofel gyffrous newydd i’r arddegau.

Prif gymeriad ei fenter newydd yw Manawydan Jones, bachgen mud 15 oed, sy’n darganfod ei fod yn hanu o dylwyth Manawydan fab Llŷr o’r Mabinogi. Mae Manawydan Jones: Y Pair Dadeni yn nofel antur sy’n ymwneud â ras rhwng dwy garfan, y Cyfeillion a’r Marchogion, i ddod o hyd i’r pair hud.

Meddai’r awdur, Alun Davies:
“Ar ôl gorffen trioleg Taliesin MacLeavy roeddwn i'n awyddus i ysgrifennu rhywbeth oedd yn fwy na stori dditectif. Gwnaeth y syniad o ddod â straeon a chymeriadau’r Mabinogi o’r canol oesoedd i Gymru gyfoes afael ynddo i’n syth – rwy’n teimlo ei bod hi’n stori fydd yn apelio i lot fawr o bobl, ac yn enwedig rhywbeth fydde fy mhlant i’n gallu darllen a mwynhau. Fel yn straeon Taliesin mae yna lofruddiaethau yn digwydd a dirgelwch i’w ddatrys i Manawydan, ond ar ben hynny mae yna antur, drwgdeimlad, chwedloniaeth, cleddyfau, a hyd yn oed hud a lledrith – rhywbeth i bawb o bob oedran, gobeithio!”

Mae trioleg Taliesin MacLeavy, sydd wedi’i ysgrifennu mewn arddull Scandi-noir, wedi bod yn hynod o boblogaidd ac wedi derbyn llawer o glod, gyda Manon Steffan Ros yn ei ddisgrifio fel cyfres “hollol wych”. Yn debyg i lyfrau Taliesin, mae nifer o benodau Manawydan Jones wedi’u hysgrifennu o safbwynt llif meddwl Manawydan er mwyn i’r darllenydd uniaethu â’r cymeriad a deall ei safbwynt. Meddai Alun:

“Mae lot o ddarllenwyr wedi dweud eu bod nhw wedi cymryd at gymeriad Taliesin yn arw, ac rwy’n gobeithio byddan nhw’n datblygu’r un agosatrwydd at Manawydan. Mae yna debygrwydd rhwng y ddau, gyda’r ddau yn outsiders (ar y dechrau, o leiaf) ac yn ei chael hi’n anodd i gyfathrebu ag eraill.” 

Mae Manawydan Jones: Y Pair Dadeni yn gyfrol sy’n rhoi gwedd newydd ar hanesion y Mabinogi i gynulleidfa ifanc, a’u cysylltu gyda bywyd heddiw. Yn y nofel, mae Manawydan yn dod i ddeall bod nifer o etifeddion eraill cymeriadau’r Mabinogi yn fyw o hyd ac wedi bod yn ymladd ei gilydd ers canrifoedd – a’i bod hi’n bryd iddo yntau hefyd ymuno yn y frwydr!