Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ar ôl torri'r rhyngrwyd gyda'i ganeuon mae'r Welsh Whisperer am chwalu'r byd llyfrau gyda'i lyfr cyntaf

Ar ôl gwerthu miloedd o CDs ar hyd a lled y wlad yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Welsh Whisperer nawr yn anelu i fod ar frig y siartiau llyfrau ar gyfer y Nadolig gyda’i lyfr newydd. Mae Ffyrdd y Wlad yn llawn hiwmor a hwyl unigryw’r Welsh Whisperer, y canwr gorau i ddod o Gwmfelin Mynach erioed!

 

Mae’r Welsh Whisperer wedi dod yn bersonoliaeth enwog drwy Gymru gyfan: trwy ei golofn ‘Whilibowan gyda’r Welsh Whisperer’ yn y Cardi Bach a’r Cymro; wrth gigio a theithio’r wlad; fel canwr poblogaidd a chyflwynydd ar Radio Cymru, ac ar Heno yn rhannu ‘tafarn yr wythnos’ gyda’r genedl. Mae’r cymeriad unigryw hwn hyd yn oed wedi ffeindio ei hun yn seren ffasiwn cefn gwlad yn Golwg!

 

Yn Ffyrdd y Wlad ceir lluniau, pytiau hwyliog, straeon a golwg dychanol ar fywyd seren y byd canu gwlad yng Nghymru, hanesion am deithio ar hyd a lled Cymru, am y gigs sy’n llenwi neuaddau a thafarndai ac darnau am ei arwyr, gan gynnwys Dafydd Iwan. 

 

“A, y Welsh Whisperer...! Dw i wrthi ers hanner canrif ac mae e wrthi ers pum munud ond mae e ymhobman!” meddai Dafydd Iwan.

 

Ceir hefyd golwg doniol ar y broses o gynhyrchu cerddoriaeth ar gyfer y sin Cymru & Western a chip y tu ôl i’r llenni ar yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei ganeuon mwyaf poblogaidd: ‘Loris Mansel Davies’ (a fu bron a ‘thorri’r rhyngrhwyd’ ar ôl y perfformiad cyntaf ar Heno), ‘Ni’n Beilo Nawr’, ‘Bois y JCB’ a ‘Bois y Loris’.

 

Dywed Angharad Mair “Mae’r Welsh Whisperer wedi dal dychymyg y genedl gyda’i hiwmor ffraeth cefn gwlad.”

 

“Rwy’n gobeithio bydd y llyfr yma’n ysbrydoli ambell un er mwyn ehangu’r sin adloniant Cymraeg – mae’n daith unig iawn ar hyn o bryd!” meddai’r diddanwr o Gwmfelin Mynach.

 

“Mae’n grêt medru cyrraedd ystod eang o oedrannau o fewn cymunedau cefn gwlad led led Cymru.

Mae sawl ysgol wedi dweud wrtha i’n barod mai colofn y Welsh Whisperer yw’r unig ffordd o gael rhai disgyblion i ddarllen!”

 

Mae’r llyfr yn cynnwys ei ymateb at dwf y Welsh Whisperer mewn cyfnod cymharol fer. Mae ei boblogrwydd yn golygu bod pobol bellach yn gwisgo lan fel y cymeriad ffraeth hwn mewn carnifáls a gigs, a phlant yn ei ddynwared ar ddiwrnodau gwisgo dillad eich hun mewn ysgolion neu mewn sioeau Nadolig.

Mae’n dweud ei bod bellach yn anodd mynd i siopa neu i dafarn heb glywed y geiriau ‘Ni’n beilo nawr!’.