Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ar Grwydir Eto - portreadau o gymeriadau lliwgar cefn gwlad y gorffennol

O Dewi Emrys i W H Davies, mae gan Gymru lu o enwogion oedd yn hoff o grwydro. Ac mewn llyfr newydd mae’r awdur Goronwy Evans o Lanbed wedi ysgrifennu portreadau o ddegau ohonynt. Ar Grwydir Eto yw teitl y gyfrol sy’n ddilyniant i’w gyfrol Ar Grwydir a gyhoeddwyd yn 2016.

Cafodd Goronwy Evans ei synnu gan yr ymateb i’r gyfrol gyntaf. Felly yn ogystal â’r geirda caredig fe dderbyniodd lythyron a phenillion gan bobl oedd eisiau rhannu eu hatgofion hwy am rai o’r crwydriaid yn y gyfrol, ac wrth eraill oedd am ategu eu hatgofion am grwydriaid eraill.

“Yr hyn a wnaeth i fi casglu’r wybodaeth yma yn y lle cyntaf oedd fy adnabyddiaeth am dramps. Pan o’n i’n grwt o’ch chi’n gweld tramp a sipsiwn bob dydd. Roedd eu cymeriadau’n rhan annatod o gefn gwlad, ac yn haen oedd yn cyfoethogi,” meddai’r awdur Goronwy Evans.

Mae’r gyfrol newydd hon yn deyrnged i fintai o bobol sy’n haeddu cael eu cofio – llawer ohonyn nhw’n ddioddefwyr o effeithiau rhyfel – a hynny cyn iddyn hwy gael eu hanghofio. Mae cymeriadau lliwgar Ar Grwydir Eto yn cynnwys Bili Tom o Sir Aberteifi, Y Prifardd Dewi Emrys, Bili Bwtshwr Bach, Anne Naysmith. Hefyd, mae’r gyfrol yn cynnwys y bardd-grwydryn W H Davies a anwyd yng Nghasnewydd ac a ysgrifennodd y gerdd ‘Leisure’ gyda’r cwpled agoriadol enwog, ‘What is this life if, full of care / We have no time to stand and stare.’

Hefyd, mae’r gyfrol yn cofio am gymuned y sipsiwn yr oedd yn olygfa gyffredin eu gweld yn teithio trwy bentref Cwmsychbant yng Ngheredigion pan oedd Goronwy yn blentyn, gyda’u milodfa o geiliog a dwy neu dair iâr, ynghyd â milgwn niferus.

Yn rhy aml mi welwn bobl cefn gwlad yn cael eu portreadu fel pobl gul, ddrwgdybus o allanwyr. Ond mae’r llyfr hwn yn talu teyrnged i’r gymdeithas a oedd yn garedig ac yn rhoi swyddogaeth i grwydriaid.

“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn cael yr un blas yn ei darllen hi a gwnes i wrth gasglu’r wybodaeth a’i hysgrifennu. Os oes gan rywun wybodaeth pellach am y cymeriadau yma, neu gymeriadau newydd, mae croeso mawr i chi gysylltu,” meddai Goronwy.