Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ailgyhoeddi Un Nos Ola Leuad ar fformat newydd

Dyma gyhoeddi llyfr a gaiff ei ystyried fel y nofel Gymraeg orau erioed, Un Nos Ola Leuad, mewn fformat newydd wedi ei ailgysodi a’i gyhoeddi fel e-lyfr am y tro cyntaf erioed, gan wasg Y Lolfa. Mi fydd y llyfr hefyd yn cynnwys nifer bychan o gywiriadau y bwriadodd Caradog Prichard eu cael yn y fersiwn wreiddiol gan wasg Gee yn 1961, ond na gynhwyswyd tan nawr.

Yr un testun Cymraeg sydd wedi ei atgynhyrchu ers hynny (gan wasg Gwalia a’r Lolfa), er i luniau Ruth Jen gael eu hychwanegu. Ond yr wythnos hon cyhoeddir fersiwn newydd, gyda’r testun wedi ei ailgysodi, a  hynny gyda chydweithrediad Mari Prichard, merch Caradog Prichard.

Meddai Mari: “Mae hi’n hynod gyffrous gweld y fersiwn newydd yma o nofel fy nhad. Mae gen i ddau gopi o Un Nos rydw i’n eu trysori. Y cyntaf yw’r copi fy nhad gyda rhwymiad arbennig lle ysgrifennodd fy nhad ‘I Mari, Nadolig 1961’. Mi roedd wedi nodi rhai cywiriadau yn hwnnw yr oedd ef neu Gee wedi eu methu, wedyn flynyddoedd yn ddiweddarach mi ddarllenais yr ail gopi, ei gopi gweithio, a gweld iddo nodi un neu ddau o gywiriadau pellach. Man-bethau oedd rhain, ond mae’n fendith mawr i fi i’w gweld nhw o’r diwedd mewn copi print. Rwyf hefyd yn hynod falch fod y nofel am fod ar gael fel e-lyfr. Nid yn unig i fod yn fwy cyfleus, ond hefyd i fod yn ddefnyddiol i’r rhai hynny sy’n astudio a chwilio’r testun, ac i bobl hen ac ifanc allu chwyddo maint y teip ar gyfer eu hanghenion darllen eu hunain.”

“Mi fyddai fy nhad wedi rhyfeddu at lwyddiant y nofel ers iddo farw. Mi fydd yr argraffiad hwn hefyd yn rhoi ychydig o hanes y nofel, gyda rhagarweiniad byr o’r cyfieithiadau a gwobrau a ddaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gyda’r cywiriadau a’r ailgysodi mae’r nofel hefyd yn haws i’w ddarllen, yn addas i’r unfed ganrif ar hugain.”

Ers ei gyhoeddi yn wreiddiol yn 1961 mae’r nofel wedi cael clod fel y nofel Gymraeg orau erioed. Cafodd ei dewis fel y nofel orau gan y Wales Arts Review, a disgrifiodd Jon Gower y nofel fel “un gall gael ei chynnwys yn falch fel un o drysorau llenyddol mawr y byd... clasur bona fide.”

Mi fydd drama o Un Nos Ola Leuad gan Gwmni Theatr Bara Caws ar daith o ganol fis Hydref ymlaen ac mi fydd fersiwn e-lyfr o’r nofel ar gael ar 1 Tachwedd, o wefan Y Lolfa neu www.ffolio.cymru