Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ail gyhoeddi campwaith olaf Gareth F Williams

Mae gwasg Y Lolfa wedi ail gyhoeddi campwaith olaf y diweddar Gareth F Williams, Awst yn Anogia, yn dilyn marwolaeth yr awdur llynedd.

Cyhoeddwyd Awst yn Anogia yn wreiddiol gan Wasg Gwynedd yn 2014.

Meddai Lefi Gruffudd, Pennaeth Golygyddol gwasg y Lolfa, 'Bu'r llyfr allan o brint ar ôl iddo ennill Llyfr y Flwyddyn, a bu galw mawr amdano ar y pryd.'

'Dyma nofel orau Gareth F, un o'n nofelwyr mwya toreithiog a thalentog. Roedd colli Gareth yn golled enfawr i'r byd cyhoeddi, a gwych gweld y nofel hon nôl mewn print,' ychwanegodd.

Fe gipiodd y nofel prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn yn 2015 gan ddenu canmoliaeth arbennig gan y beirniad, Annes Glynn, Hywel Griffiths a Gareth Potter.

Meddai Hywel Griffiths ar ran y panel beirniadu ar y pryd, 'Mae Awst yn Anogia yn eithriadol yn y modd y mae'n creu cymeriadau a lleoedd y mae'r darllenydd yn poeni amdanynt. Dyma epig hanesyddol lle mae effaith rhyfel yn dod yn fyw drwy fywydau pobl gyffredin.'

Nofel ysgytwol yw Awst yn Anogia, wedi'i seilio ar erchyllterau'r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta oedd o dan rym y Natsïaid, a'r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth.

Derbyniodd ganmoliaeth sylweddol, megis gan yr awdur Bethan Gwanas a'i disgrifiodd fel 'Nofel epig, wych, wedi ei sgwennu'n feistrolgar. Mi gydiodd ynof gerfydd fy ngwar, a gwrthod gollwng.'

Bu farw Gareth F Williams ar Fedi'r 14eg 2016 yn 61 mlwydd oed yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn canser. Roedd yn wreiddiol o Borthmadog ond wedi byw ger Pontypridd ers blynyddoedd lawer. Awst yn Anogia oedd ei nofel olaf i oedolion. Ysgrifennodd nifer o lyfrau llwyddiannus a phoblogaidd i blant a phobl ifanc gan ennill Gwobr Tir na n-Og bedair gwaith. Roedd hefyd yn ddramodydd ac yn sgriptiwr penigamp.

Meddai Meinir Wyn Edwards, golygydd, gwasg Y Lolfa, 'Pleser pur oedd cydweithio â Gareth F. Roedd yn fwrlwm o syniadau ac roedd gwrando arno'n siarad am ei waith yn hwb i'r galon. Mae ei epig, Awst yn Anogia, yn un o'r nofelau gorau i mi ei darllen erioed, mewn unrhyw iaith'

'Mae mor bwysig ein bod ni'n gwerthfawrogi ac yn annog ein hawduron a'n llenorion, cyn ei bod hi'n rhy hwyr. Roedd gan Gareth gymaint mwy i'w gynnig, cymaint o syniadau wedi'u cynnau a chymaint o heyrn gwahanol yn y tân.' meddai Meinir.

'Rydyn ni wedi colli un o awduron gorau Cymru. Braint oedd cael ei adnabod. Mae'n gadael bwlch enfawr ar ei ôl.' ychwanegodd.