Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Byddwch yn rhan o lyfr newydd i ddathlu'r twf mewn cefnogaeth i annibyniaeth!

Rydyn ni angen eich lluniau a’ch straeon!

Mae Gwasg Y Lolfa’n paratoi cyfrol ddwyieithog i drafod a dathlu’r twf mewn cefnogaeth i Annibyniaeth i Gymru, i’w chyhoeddi yn Hydref 2020. Canolbwyntir yn bennaf ar y blynyddoedd rhwng 2016 a 2020.

Bydd y gyfrol yn cynnwys detholiad o straeon gan unigolion sydd wedi tystio i’r twf yma ers Ewros 2016, sydd wedi ymuno â’r ymgyrch yn sgil refferendwm Brexit neu wedi penderfynu yn nyddiau’r Coronavirus mai annibyniaeth i Gymru yw’r unig ffordd ymlaen. Fel gyda chyfrol Cofiwch Dryweryn, bwriedir i’r straeon/profiadau gael eu gosod ochr yn ochr â lluniau perthnasol i gyd-fynd â stori pob unigolyn.

Meddai golygydd y gyfrol, Mari Emlyn:

“Byddai’n dda cael straeon o bob cwr o Gymru yn nodi beth oedd y sbardun i chi gefnogi’r ymgyrch? Pam bod angen annibyniaeth? Byddai’n dda hefyd pe gallech anfon lluniau ohonoch chi a’ch teulu/ffrindiau i gyd-fynd â’ch profiad – yn yr Ewros yn 2016, mewn cyfarfodydd canghennau Yes Cymru, ar un o’r gorymdeithiau dros Annibyniaeth, o fewn eich cymuned neu yn eich cartref yn ystod y lockdown.”

A fyddech gystal â chysylltu efo Mari Emlyn: [email protected] i gynnig eich lluniau a’ch straeon, neu i gael mwy o wybodaeth?

Dyddiad cau derbyn deunydd yw 14 Gorffennaf, 2020.