Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gêm Fwrdd sy’n ail-fyw Rhyfel Glyndŵr Dros Annibyniaeth

Mae’r Lolfa newydd ryddhau gêm fwrdd newydd Gymraeg sy’n ail-fyw gwrthryfel Owain Glyndŵr. Mae bwrdd y gêm wedi ei seilio ar fap o Gymru’r cyfnod ac yn cynnwys lleoliadau’r cestyll a’r brwydrau. Mae’r holl ddarnau a’r cardiau wedi eu creu yn bwrpasol i roi naws ac ymdeimlad cryf o’r canol oesoedd ac i gynnig profiad i’r rhai sy’n chwarae. Dyma’r gêm fwrdd Gymraeg wreiddiol gyntaf i gael ei chyhoeddi ers blynyddoedd maith ac yn ôl Y Lolfa bydd yn llenwi bwlch mawr mewn maes sy’n tyfu’n gyflym. Dywedodd Garmon Gruffudd o’r wasg,

“Mae yna alw mawr yn fyd-eang am gêmau bwrdd fel adwaith yn erbyn yr oes ddigidol a dibyniaeth plant a phobl ifanc ar sgriniau. Er fod yna ambell i addasiad o gêmau bwrdd Saesneg wedi cael eu cyhoeddi yn Gymraeg yn lled-ddiweddar dwi’n credu taw hon yw’r gêm fwrdd wreiddiol gyntaf yn Gymraeg i oedolion ers Gêm y Steddfod a gyhoeddwyd bron i hanner canrif yn ôl.”

Gobaith Y Lolfa yw y bydd y gêm yn cael ei archebu gan gyplau, teuluoedd, ysgolion yn ogystal â dysgwyr Cymraeg. 

Cafodd Geraint Rhys Thomas, dyfeisydd y gêm, y syniad yn ystod y cyfnod clo, ac ef sydd wedi creu’r darnau yn ei weithdy ar gyrion Caerdydd. Mae Geraint yn awdurdod ar fywyd Owain Glyndŵr ac yn felinydd yn Amgueddfa Sain Ffagan, wrth ei waith bob dydd. Dywedodd:

“Mae’r gêm yn wledd i’r llygaid, yn syml i’w chwarae ond hefyd gyda digon o elfennau amrywiol i’w wneud yn gyffrous. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am wrthryfel Glyndŵr ac i ail-fyw’r hanes mewn modd hwyliog. Gobeithio y bydd yn tanio’r dychymyg ac yn ysgogi pobl i ddarllen rhagor am Owain Glyndŵr a hanes Cymru.”

Chris Ilif o Gapel Seion, sydd wedi darlunio’r map sy’n ganolbwynt i’r bwrdd a’r ddelwedd drawiadol o Owain Glyndŵr sydd ar glawr y bocs. Bydd y gêm ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg o Ddydd Gŵyl Dewi ymlaen am £25.