Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Lansio Gwales gan Catrin Dafydd yng Nghaerdydd

Ymunwch a ni am 7.30 o'r gloch nos Wener yr 15fed o Fedi yn ystafell Hen Ysgoldy’r Eglwys (Old Church Rooms) Radur, Caerdydd ar gyfer lansiad GWALES gan Catrin Dafydd! 

Bydd Catrin Beard yn cadeirio a Heather Jones yn canu.

Croeso cynnes i bawb!

Bydd y digwyddiad i godi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2018 Caerdydd.