Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Brecyn Yoga gyda Ceri Lloyd

Ymunwch â Ceri Lloyd, awdures 'O'r Pridd i'r Plât' am fore ymlaciol a llesol. Cewch fwynhau matcha latte, ymarfer yoga a dysgu sgiliau i'ch helpu trwy gyfnod prysur y Nadolig, blasu rysetiau o'r llyfr, a chael copi o'r llyfr i fynd adre gyda chi. Hyn oll am £30. Rhaid bwcio lle ymlaen llaw. I gadw lle cysylltwch â Eirian yn Palas Print 01286 674631 [email protected]