Cyfres y Goreuon: 1. Cyfweliadau Mabon
Cyhoeddwyd y cylchgrawn Mabon yn yr 1970au gan Gymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru. Ymysg yr erthyglau mwyaf poblogaidd oedd cyfweliadau â llenorion Cymraeg y cyfnod, a cheir yma ddetholiad ohonynt. Y mae yma hefyd gyfweliad â dau gymeriad byd-enwog, sef y cyfarwyddwr ffilmiau Roman Polanski, a'r bardd Rwsiaidd Iefgeni Ieftwshenco.