Argraffiad newydd o gyfrol hunangofiannol Kate Roberts, 'Brenhines ein Llên', yn cynnwys atgofion plentyndod, cofnod o gyfoeth diwylliannol bro mebyd a chaledi bywyd mewn ardal chwarelyddol dlawd yn Arfon ar ddechrau'r 20fed ganrif, ynghyd â phortreadau o aelodau o'i theulu a chymeriadau lliwgar eraill ei bro. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1960. Darn o hunangofiant awdur a faged yn un o ardaloedd chwarel bychain Dyffryn Nantlle yn nhro'r ganrif ddiwethaf mewn cyfnod llwm yn y diwydiant llechi. Mae'r hanes yn dangos adwaith plentyn synhwyrus a theimladwy i amgylchiadau bywyd y cyfnod, ar yr aelwyd, yn y capel ac yn y gymdeithas o deuluoedd y tu allan. Trwy ddarluniau a hanesion gellir gweld yn glir yr argraff a wnaeth y pethau hyn ar yr awdur, a sut y cynhyrfwyd hi i droi ei phrofiadau yn storïau. Er gwaethaf yr amgylchiadau caled, mae ffrwd o hapusrwydd yn rhedeg drwy'r cyfan, ac ar y diwedd gall yr awdur edrych yn ôl ar ei phlentyndod gyda hyfrydwch ac nid gyda digofaint. At hyn oll, mae'r llyfr yn ddogfen bwysig o hanes cymdeithasol mewn cyfnod arbennig.