Mae pentref glan môr Cwmtydu'n llawn cyfrinachau. Ganol nos, mae'r lle'n fwrlwm i gyd wrth i Siôn Cwilt a'i griw o smyglwyr lanio llwythi o gontraband yn yr ogofâu ar hyd yr arfordir. Ond yn Ogof y Lleisiau mae'r dirgelwch mwyaf. Lleisiau pwy, tybed, sydd i'w clywed yno? A phwy sy'n gwylio'r holl fynd a dod o ben y creigiau?
Dyma glasur o nofel gan T.Llew Jones, meistr y stori antur a dirgelwch.