Ôl-Ryfel i Ôl-Fodern - Bywgraffiadur Artistiaid Cymru
Bywgraffiadur Artistiaid Cymru
Y llyfr darluniadol cyntaf o'i fath gyda phroffil o bron i 1400 o arlunwyr gweledol a chymhwysol sy'n gweithio yn y dull traddodiadol a newydd yng Nghymru dros y chwe deg mlynedd diwethaf. Bywgraffiadau cryno ac awdurdodol gyda 300 o ddarluniau mewn lliw neu ddu a gwyn. Traethawd ysgolheigaidd gan yr arlunydd a'r hanesydd celf, Dr Ivor Davies, yn gosod y gwaith yn ei gyd-destun. Dyma gyfeirlyfr academaidd o bwys na ddylai unrhyw un sy'n caru'r celfyddydau gweledol a'r crefftau yng Nghymru fod hebddo.