Mae Colli'r Hogiau yn astudiaeth o effaith y Rhyfel Mawr ar Gymru ac yn astudiaeth o ymateb y Cymry i'r Rhyfel Mawr. Mae holl bwyslais y llyfr ar yr elfen ddynol, ac nid yr elfen filitaraidd, er bod yr holl frwydrau a ymladdwyd yn gefnlen ac yn gefndir i'r hanes. Straeon personol a geir yma. Pwy oedd yr holl fechgyn hyn y naddwyd eu henwau ar gofebau o Wynedd i Went ac o Feirion i Forgannwg? Beth a'u gyrrodd i ymladd? Beth am effaith y rhyfel ar dadau a mamau, ac ar wragedd a chariadon? Ac ymhle'r oedd Cymru a'r iaith Gymraeg yng nghanol yr holl glod a bentyrrid ar yr Ymerodaeth Brydeinig a'r holl ddyrchafu ar filitariaeth a geid yn ystod blynyddoedd y rhyfel? Yng nghanol yr un hanes mawr fe geir nifer helaeth o fân hanesion, a llawr o'r rheini yn hanesion cyffrous ryfeddol. Mae'r llyfr yn edrych ar y Rhyfel Mawr o ongl wahanol i'r arfer, ac, yn fwy na dim, mae'n chwilio am y gwirionedd wrth ofyn y cwestiwn dirdynnol: a ellid cyfiawnhau anfon miloedd o fechgyn Cymru i'w tranc, a llawer iawn o'r bechgyn hynny ymhlith meibion mwyaf galluog eu cenedl?