Dinefwr - A Phoenix in Wales
Cyfrol wedi ei darlunio'n hardd yn adrodd stori Dinefwr, man sy'n atseinio'n barhaus yn hanes Cymru. Bu'r castell, ar fryncyn uchel uwch Afon Tywi yn bencadlys grym yr Arglwydd Rhys, a bu'r plasty yn gartref i'r teulu Dinefwr (Dynevor) am genedlaethau. Gwelodd y lle a'i drigolion sawl llanw a thrai, ond llwyddodd, dro ar ôl tro, i oroesi trychinebau'r canrifoedd.