Dyma'r ymgais gyntaf i gyhoeddi holl gerddi Waldo Williams mewn un gyfrol, ei gerddi adnabyddus yn ogystal â'i gerddi anadnabyddus, a llawer o'r rheini'n ymddangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf y gyfrol hon; 344 o gerddi i gyd. Mae'r cerddi wedi eu gosod yn ofalus mewn adrannau, o gerddi cynharaf Waldo hyd at ei gerddi olaf un, a luniwyd ar ôl iddo gyhoeddi ei gyfrol fawr, Dail Pren, ym 1956. Ceir yma hefyd ragymadrodd cryno gan Robert Rhys, a thros ddau gant o dudalennau o nodiadau eglurhaol a defnyddiol ar y cerddi. Fel y dywed Robert Rhys yn ei Ragymadrodd: Dyma gyfrol i'w thrysori, yn sicr.
Mae Robert Rhys yn Ddarllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn Academi Hywel Teifi yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, ac Alan Llwyd yn Athro Ymchwil yn yr un adran. Ffrwyth cydweithio rhwng dau aelod o staff Academi Hywel Teifi yw'r casgliad hwn o holl gerddi Waldo Williams felly.