Llais dau ddyn sydd yma: Joseff, y tad sy'n addoli meddygaeth, ac Alwyn, y meddyg anfodlon o fab. Yn gefndir i'r digwydd mae erchylltra'r Rhyfel Mawr, ac wrth i'r stori ddatblygu down yn fwyfwy ymwybodol o gymhellion y ddau brif gymeriad. Defnyddir dulliau dyfeisgar i fynd o dan groen y cyflwr dynol, yn enwedig y berthynas rhwng tad a mab. Mae ei gonestrwydd, ar adegau, yn ysgytwol.
Dyma nofel fer hirddisgwyliedig gan un o brif lenorion a beirniaid llenyddol Cymru. Hon yw ei unfed gyfrol ar bymtheg, ac mae Harri eisoes wedi ennill clod uchel am ei gyfraniad pwysig ac eang at lenyddiaeth Gymraeg. Mae apêl ryngwladol i'w waith ac mae eisoes wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd eraill.
Cafodd Harri ei hyfforddi fel meddyg yn Nulyn a chyn iddo ymddeol bu'n gweithio fel seiciatrydd yng Ngaherdydd a'r cylch. Yn ddiddorol, mae yn y gyfrol drawiadol, newydd hon adlais o brofiadau personol yr awdur ei hun.