Hanes sy'n dweud y gwir atgas i gyd! Celtiaid? Rhufeiniaid? Pwy oedden nhw, tybed? Wel, dyna'r bobl gynhennus a rhyfygus y mae eu hanes atgas nhw'n cael ei adrodd yn y gyfrol hon. Yn gawl blasus o ffeithiau a chwedlau difyr, dyma gyfle i holi: Tybed oedd y Celtiaid yn bod o gwbwl? Pam mai noson Galan Gaeaf oedd noson fwyaf brawychus y flwyddyn i bob carcharor Celtaidd a throseddwr trychinebus? Pa ddefnydd oedd gan y Rhufeiniaid i ymennydd llygod? Pam nad yw'n syniad da i wisgo toga yng Nghymru? Un peth sy'n sicr, roedd y Celtiaid cynhennus a'r Rhufeiniaid rhyfygus wrth eu bodd yn ymladd a rhyfela, felly cewch yma ddigon o ffeithiau ffiaidd a straeon stranclyd am ffraeo ffyrnig a brwydro brawychus. Ac nid dim ond y dynion oedd wrthi, cofiwch chi. O na, roedd na fenywod oedd yn go handi ar faes y gad hefyd - nifer ohonyn nhw'n fwy galluog na'u gŵyr! Oedd, roedd gan bawb eu rhan i chwarae wrth greu'r holl hanes atgas hwn! Felly, gwisgwch eich helmed a'ch sandalau, cydiwch yn eich tarian ac i fyd y Celtiid cynhennus a'r Rhufeiniaid rhyfygus â ni!