Rhannu gwely gyda geifr, ieir a chwain a bwyta cawl cig gwiwerod a brain! Dyna sy'n digwydd i Rhys o Gaerdydd a Mari o Feirion wrthyn iddyn nhw gael eu cipio yn ôl mewn amser i'r flwyddyn 1554 i ganol oes Gwylliaid Cochion Mawddwy.
Yn fwrlwm o hiwmor, cyffro ac erchylltra, dyma stori afaelgar sy'n gyfuniad o hanes a dychymyg gan un o hoff awduron Cymru.
Enillydd Cystadleuaeth Nofel Wreiddiol Cronfa Goffa T. Llew Jones.