Mae llais Gareth Blainey'n gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales ers dros ddau ddegawd bellach. Fel un o hoelion wyth timau sylwebu pêl-droed y BBC yng Nghymru, bu'n teithio ar hyd a lled Cymru a Lloegr gyda'n clybiau cartref, ac i nifer helaeth o wledydd tramor i sylwebu ar hynt a helynt ein tîm cenedlaethol.
Treuliodd Gareth ei flynyddoedd cyntaf yn byw yng nghysgod stadiwm enwog Wembley yn Llundain, cyn symud i Lanfairfechan gyda'i rieni pan oedd yn saith oed. Mae'r straeon yn y gyfrol hon yn ein tywys ar daith Gareth o Wembley yn 1970 ac yna trwy ddetholiad o'r gemau mwyaf arwyddocaol y bu'n sylwebu arnynt ar lefel broffesiynol a phersonol. Pen y daith ydy'r Wembley newydd, a Gareth yn dychwelyd i ardal ei blentyndod i sylwebu ar un o dimau Cymru'n cystadlu ar y llwyfan byd-enwog hwn.
Wrth ddarllen yr hanesion amrywiol a difyr yn y gyfrol hon, daw'n amlwg mai teulu Gareth, pêl-droed a cherddoriaeth ydy'r pethau pwysicaf yn ei fywyd. Cawn weld sut y daeth at ei yrfa bresennol o'i ddyddiau cynnar ar orsaf radio leol yng Nghaerdydd, sut mae bywyd crwydrol sylwebydd yn effeithio ar fywyd teuluol, ac yn fwy na dim, brwdfrydedd Gareth at gêm y bu'n angerddol drosti erioed. Ond a gollodd tîm Cymru seren oherwydd mai dewis sylwebu yn hytrach na chwarae wnaeth e? Fe gewch wybod yr ateb gan yr awdur ei hun...