Wel, dyma i chi gyfrol fydd yn neud i chi wherthin nes bo'r dagre'n tasgu – mae'n llawn o hiwmor iach y wlad. Hanes Aneurin Davies, y dyn tarw potel, neu Aneurin AI, o ardal Llanbed sydd yn Bywyd wrth Ben-ôl Buwch. Mae Aneurin wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd gwaith wrth ben-ôl rhyw fuwch neu'i gilydd ac mae e'n cyfadde'n llawen ei fod wedi mwynhau pob munud yno. Wrth fynd o -fferm i - fferm yn ei fan fach, mae Aneurin wedi cwrdd â chymeriadau lliwgar ac wedi profi pob math o anturiaethau ar hyd y ffordd, ond bydd yn rhaid i chi ddarllen y gyfrol i weld beth yn gwmws ddigwyddodd iddo fe … Un peth sy'n sicr, dyw bywyd wrth ben-ôl buwch ddim byth yn ddiflas.