Er bod gwaith a bywyd diweddarach T.H. Parry-Williams yn gyfarwydd i ni, ychydig iawn a wyddom am ei flynyddoedd cynnar. Dechreuodd grwydro'n fachgen ifanc pan aeth i'r ysgol ym Mhorthmadog ac yntau'n ddim ond un ar ddeg mlwydd oed. Ar ôl hynny, aeth ar ei hynt tuag at ei yrfa academaidd ryfeddol o ddisglair o Aberystwyth i Rydychen, o Freiburg, trwy'r Swistir, i Baris, yn ôl i Aberystwyth, i Ryd-ddu, ac at lethrau uchel fferm Oerddwr erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae ei hanes yn y mannau hyn yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o'r dyn a'i waith, ac yn cynnig darlun cyfareddol i ni o Ewrop ar ddechrau'r ganrif ddiwethaf trwy lygaid y bachgen o Dŷ'r Ysgol a ddaeth yn un o gewri ein llenyddiaeth.