Nofel sy'n portreadu chwe blynedd olaf bywyd y gyfansoddwraig ddisglair Morfydd Llwyn-Owen yw Fel yr Haul. Ganed Morfydd yn Nhrefforest yn yr hen sir Forgannwg yn 1891, ac yn un ar hugain oed aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Roedd hefyd yn gantores arbennig, a pherfformiodd ei chaneuon ei hun ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1917. Yn y gyfrol fywiog, ddisglair hon, cawn weld dehongliad celfydd Eigra Lewis Roberts o fywyd, gwaith a pherthynas Morfydd â'i theulu a'i chyfeillion. Daw bywyd ganrif yn ôl yn fyw i ni, a chysgod y Rhyfel Mawr yn gefnlen dywyll i holl ddigwyddiadau'r nofel. Bu farw Morfydd yn drasig o ifanc, ond darlun ohoni'n fenyw ifanc benderfynol a'i phersonoliaeth gref a welwn ni yma. Fe garodd lawer ac fe ddigiodd lawer, ond roedd hi'n llawn bywyd ac egni ar hyd ei hoes, a hawdd gweld sut y swynodd hi gynifer o bobl yn ystod ei hoes fer.