Ar y môr y mae'r milwyr ifanc Eyolf, Tarje, Linus a Jalo ar ddechrau'r nofel annisgwyl hon.
Wedi i'w llong gael ei dryllio does dim dewis ond mynd ar daith trwy diroedd oer y blaidd a'r eryr, lle mae pobl yn bobl fel erioed: yn ffeind, yn ffraeth, ac yn ffiaidd.
Awn y tu hwnt i amser a dilyn y cymeriadau a'u hymdrechion i ddal gafael ar eu hunaniaeth, pa rwystrau bynnag ddaw i'w rhan a beth bynnag mae'r byddinoedd a'r Chwedl yn ei fygwth neu'n ei orchymyn.
Yn nofel newydd Alun Jones, awdur un o nofelau mwyaf poblogaidd y Gymraeg, Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr, gwelwn yr awdur yn troi ei sylw at gymeriadau sy'n ceisio cadw'u callineb yng nghanol rhyfel parhaus rhwng dwy fyddin. Mae'r nofel afaelgar a bywiog hon yn dilyn hynt a helynt pedwar milwr ifanc, Eyolf, Tarje, Linus a Jalo wrth iddynt ddisgyn i ddwylo'r gelyn.