Dyma hunangofiant diflewyn-ar-dafod Ifor Lloyd; mae'n olrhain ei hanes o ddyddiau cynnar ei fagwraeth yng Nghrug-y-bar, drwy ei yrfa gynhyrfus a'i fentergarwch blaengar yn sefydlu garej gwerthu ceir hyd at heddiw a'i fusnes magu cobiau llwyddiannus ym Mridfa Derwen, Pennant, ar y cyd â'i wraig Myfanwy. Mae rhai ohonom yn lwcus os byddwn ni'n byw un bywyd yn dda, ond mae Ifor wedi llwyddo i fyw tri bywyd llawn iawn mewn tri maes tra gwahanol. Mae'n enwog am dri pheth a'r tri pheth hynny - y canu, ceir a'r cobs - wedi'u plethu i'w fywyd mor rhwydd. Cred Ifor fod llinach a gwaed yn bethau pwysig iawn, nid yn unig gyda cheffylau ond hefyd gyda phobol. Anodd tynnu dyn oddi ar ei dylwyth.