Dyma gôr o leisiau amrywiol yn adrodd eu hanesion unigol. Mae'r dweud yn huawdl ac eto'n gynnil, yn mynegi llawer mwy na gwerth y geiriau eu hunain. Llwydda Eigra Lewis Roberts i greu sawl byd crwn gyda'i lliwio geiriol celfydd. Er gwaetha'r siars i 'beidio â deud' ac i gadw cyfrinachau teuluol, mae'r casgliad hwn o straeon byrion yn ddadlennol, yn gignoeth, yn sensitif, yn ddoniol ac yn ffraeth. Un o'n llenorion praffaf ac enwocaf yw Eigra Lewis Roberts. Mae hi'n awdur sicr ei chyffyrddiad mewn sawl maes.