Daeth Ena Thomas i sylw'r genedl pan gamodd i gegin y gyfres nosweithiol 'Heno' ar S4C yn 1993. Roedd ei hagwedd ddi-lol, ei brwdfrydedd dros goginio a'i hoffter chwedlonol o joch o frandi yn chwa o awyr iach, a bu'n aelod hynod boblogaidd o'r tîm cyflwyno am y deng mlynedd nesaf. Dyma hanes merch o Felindre a'i thaith at yr enwogrwydd a ddaeth i'w rhan yn ei chweched degawd. O ddyddiau dedwydd ei phlentyndod a'i chyfnod yn y coleg yn Llundain y 1950au, trwy ei charwriaeth a'i phriodas a chyfnod magu ei meibion; gwelwn ei bywyd cartref a gwaith yn esblygu ac yn plethu i'w gilydd, a'i ffydd yn ganolbwynt i'r cyfan. Adroddir y stori yn llais byrlymus, digamsyniol Ena ei hun, ac os clywsoch ei chwerthiniad iach erioed, mae ei atsain i'w glywed yn ffraethineb ei hanesion. Ceir ryseitiau trwy'r llyfr y gellir eu mwynhau wrth bori ac sy'n ychwanegu at wir flas ar fywyd Ena Thomas.