Ieuan Bythwyrdd – seren ddisgleiriaf Cymru ar y sgrin fawr. Golygus, drygionus, meddylgar, gofalus o'i ffans . . . yn llygad y cyhoedd. Cassie Jones – cynhyrchydd gorau teledu annibynnol yng Nghymru. Blonden siapus, fronnog, ddeniadol sy'n denu sylw a chalon Ieuan . . . yn ei phen. Mewn byd sydd wedi mopio ag anturiaethau a helyntion selébs byd ffilm, pop a chwaraeon, mae Cassie Jones yn aelod brwdfrydig o'r clwb yma, hyd at obsesiwn. Ond pan gaiff hi gyfle i gwrdd â'i hoff seléb yn y cnawd, mae bywyd yn newid yn sydyn ac yn sgeler i Ieuan. Mae Cassie'n bendant bod Ieuan yn ei charu – ac mae Ieuan yn bendant nad yw e. Un peth sy'n gwbl sicr – fydd canlyniadau'r diffyg dealltwriaeth hwn ddim yn bert . . .
Nofel gyfoes, ddarllenadwy yw hon sy'n carlamu'n heintus o hwylus trwy helbulon stori Cassie a Ieuan, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Daw uchafbwynt arswydus pan fo bydoedd ffantasi a realiti'n gwrthdaro – ond pwy, tybed, fydd yn goroesi?