Patagonia: gweledigaeth gyfareddol un dyn o bresennol nad yw byth yn colli golwg ar ddoe. Trwy weu tirweddau diffaith ond hardd ynghyd ag wynebau cofiadwy o gwmpas presenoldeb canolog cymunedau a diwylliant Cymreig ar gyfandir pell, dyma gofnod byw o fywyd ym Mhatagonia ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Ymfudodd y fintai gyntaf o Gymry i sefydlu'r Wladfa yn 1865, a bellach mae'r bedwaredd a'r bumed genhedlaeth yn parhau i fyw hanes pennod unigryw yn hanes Cymru. Yn y gyfrol tair-ieithog hon o ffotograffau trawiadol, mae Ed Gold yn dangos ei ddawn drwy adlewyrchu pob agwedd o fywyd. Cafodd ei ysbrydoli gan ei ddiddordeb yng Nghymru ac mewn cofnodi bywydau pobl sy'n rhan o ddiwylliant hanesyddol bwysig. Treuliodd Ed ddwy flynedd a hanner yn creu corff o waith arwyddocaol ym Mhatagonia. Ceir detholiad o oreuon ffrwyth ei lafur yma