Yn 2008 enillodd Only Men Aloud gystadleuaeth Last Choir Standing y BBC gan chwalu delwedd draddodiadol corau meibion am byth, a dod yn sêr dros nos. Dynion ifanc golygus â lleisiau fel angylion yn dawnsio cystal â sêr Strictly...
Mae'r gyfrol hon yn ddarlun agos-atoch o fywyd prysur y côr hynod lwyddiannus hwn ac yn gipolwg ar y daith anhygoel o ddechreuadau cyffredin yng nghymoedd y de hyd at uchelfannau perfformiadau brenhinol, recordiadau ysgubol a chyngherddau bythgofiadwy.
Gyda lluniau newydd sbon o'r holl baratoadau cefn llwyfan, dyma'ch cyfle i rannu llu o brofiadau lliwgar a chael cip y tu ôl i'r llenni showbiz.
Mwynhewch gwmni côr mwyaf golygus a deinamig Cymru - ac o bosib - y byd!
Croeso i Only Men Aloud - Y Llyfr!