Cyw Melyn y Fall
Mae Dela Arthur yn falch o fynd ar ei gwyliau i orffwys ac ymlacio wedi helbul gaeaf caled ac anllad 1947 yn Nant-yr-eithin. Ond yn fuan wedi i Dela gyrraedd Cwm y Glo mae merch fach yn diflannu o'i chartref, ac yn ystod y chwilio deuir o hyd i dystiolaeth fod trosedd erchyll wedi'i chyflawni.